Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Gofalwyr 8fed - 14eg Mehefin 2020

Ers i’r pandemig COVID-19 daro’r DU ym Mis Ionawr 2020, mae 4.5 miliwn o bobl ychwanegol wedi dod yn ofalwyr di-dâl mewn ychydig wythnosau. Mae hyn ar ben y 9.1 miliwn o ofalwyr di-dâl a oedd eisoes yn gofalu cyn yr achos, gan ddod â'r cyfanswm i 13.6 miliwn.
 
Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ardraws y DU. Mae hefyd yn helpu pobl nad ydyn nhw'n meddwl amdanyn nhw eu hunain fel rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i uniaethu fel gofalwyr a chael gafael ar gymorth mawr ei angen.
 
Eleni, mae llawer o bobl yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu am eu perthnasau a'u ffrindiau sy'n anabl, yn sâl neu'n hŷn ac sydd angen cefnogaeth o ganlyniad i'r achosion o Coronafeirws.
 
Mae angen eu cydnabod am yr anawsterau maen nhw'n eu profi, eu parchu am bopeth maen nhw'n ei wneud, a darparu gwybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth iddyn nhw.
 
Felly yn ystod Wythnos Gofalwyr, rydyn ni'n dod at ein gilydd i helpu Gwneud Gofalu'n Weladwy. Gweler sut y gallwch chi gymryd rhan yn Wythnos Gofalwyr ar wefan Wythnos Gofalwyr.