Mae Molly, 34, o Gaerffili, yn fam i dri o blant ac mae hi wedi troi ei phrofiad ei hun o orbryder yn rhywbeth cadarnhaol i eraill. Ar adeg pan oedd hi’n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl, roedd hi eisiau dod o hyd i ffordd o gefnogi menywod sy'n mynd trwy heriau tebyg.
Dechreuodd trwy sefydlu teithiau cerdded wythnosol.
Chwe mis yn ddiweddarach, mae'r teithiau cerdded hynny wedi tyfu i fod yn gymuned gefnogol o fwy na 100 o fenywod. Mae'r sesiynau bellach yn rhedeg ar nos Lun a bore Mawrth ac ar dydd Sadwrn, ac maent yn deithiau cerdded byrrach o tua awr yn ystod yr wythnos i'w cadw'n hygyrch, a thaith gerdded hirach ar y penwythnos i'r rheini sydd eisiau ychyding mwy o her.
Mae'r nod yn syml: helpu menywod sy'n teimlo'n ynysig i ailgysylltu â nhw eu hunain, â natur a gyda'i gilydd.
Mae Molly yn dweud y gall cerdded ochr yn ochr wneud gwahaniaeth enfawr.
"Weithiau mae'n haws siarad pan fyddwch chi'n cerdded, yn hytrach nag eistedd wyneb yn wyneb. Rydyn ni'n cefnogi ein giludd, rydydn ni'n gwrando, ac rydych chi'n gadael yn teimlo bod pwysau wedi'i godi."
Mae menywod yn mynychu am sawl rheswm, gan gynnwys unigrwydd, galar a gorbryder.
Mae cyfeillgarwch wedi ffurfio, ac mae rhai bellach yn cyfarfod y tu allan i'r grŵp i ddal i fyny bob wythnos dros baned o de.
Mae'r grŵp yn gwbl wirfoddol ac yn rhad ac am ddim, ac mae Molly bellach yn ehangu'r hyn sydd ar gael, gyda chynlluniau ar gyfer gweithgareddau fel ymdrochi yn y goedwig, tai chi a dipiau dŵr oer. Mae hi hefyd yn gobeithio agor canolfan gymunedol fach lle gall menywod ddod at eu gilydd mewn lle diogel.
Mae gwirfoddoli wedi trawsnewid hyder Molly ei hun hefyd.
"Doedd gen i ddim hyder cyn i mi sefydlu hyn, roeddwn i'n arfer sefyll o flaen y grŵp ac roeddwn i’n amlwg yn crynu. Nawr rwy'n caru'r gwahaniaeth rydw i'n ei wneud.
Mae wedi cael effaith mor gadarnhaol ar gymaint o bobl, gan gynnwys fi."
Mae stori Molly yn dangos sut y gall gwirfoddoli nid yn unig gefnogi eraill, ond eich helpu chi i ddof o hyd i'ch cryfder eich hun hefyd.