Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol: Meddwl am eich yfed 

Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol yr wythnos hon. Mae'r ymgyrch, dan arweiniad Alcohol Change UK, yn ein hannog i fyfyrio ar ein perthynas ag alcohol a sut mae'n effeithio ar wahanol agweddau ar ein bywydau a sut mae gwahanol agweddau ar ein bywyd yn effeithio ar ein perthynas ag alcohol.  

 

Faint rydw i'n ei yfed a faint sy'n ormod?  

Mae alcohol yn cael ei fesur mewn unedau. 1 uned = 10ml neu 8g o alcohol pur. Nid oes lefel ddi-risg o alcohol ond mae canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol yn ein cynghori i gadw'r risgiau iechyd sy’n deillio o yfed alcohol yn isel trwy beidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd. Mae hyn yn cyfateb i 6 peint o gwrw 4% neu 6 gwydraid maint canolig (175ml) o win 13% yr wythnos.  

 

Defnyddiwch Gyfrifiannell Unedau Alcohol Change UK i wirio faint o alcohol rydych chi'n ei yfed yn wythnosol a chymerwch eu cwis cyflym i'ch helpu i ddeall unrhyw lefel gysylltiedig o risg.  

 

Beth yw'r risgiau?  

Mae yfed alcohol yn rheolaidd yn cynyddu eich risg o strôc, sawl math o ganser, clefyd y galon, clefyd yr afu, iechyd meddwl gwael a niwed i'r ymennydd a'r system nerfol.  

Gall gael effaith negyddol ar eich lles hefyd, gan y gall alcohol effeithio ar eich cwsg, eich hwyliau, eich lefelau egni, eich chwantau, eich cyllid, eich gwaith a'ch perthnasoedd.   

Sut alla i leihau fy risg o niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol?  

  • Os ydych chi'n yfed 14 uned yr wythnos yn rheolaidd, ceisiwch rannu faint yr ydych yn ei yfed yn gyfartal dros 3 diwrnod neu fwy a chael sawl diwrnod heb yfed bob wythnos.   

  • Ceisiwch gyfyngu ar faint o alcohol yr ydych chi'n ei yfed ar unrhyw achlysur.   

  • Yfwch yn arafach, gyda bwyd, ac ychwanegwch ddŵr bob yn ail â diod alcoholaidd.  

  • Ystyriwch leihau neu roi’r gorau i alcohol. Gallai defnyddio ap Try Dry Alcohol Change UK helpu. Peidiwch â rhoi cynnig ar hyn os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn ddibynnol ar alcohol – ceisiwch gymorth ychwanegol gan y gall diddyfnu alcohol fod yn angheuol.  

 

Beth os ydw i'n feichiog neu'n meddwl y gallwn i ddod yn feichiog?  

Y dull mwyaf diogel yw peidio ag yfed alcohol o gwbl, er mwyn cadw’r risgiau i chi a'ch babi mor isel â phosibl. Siaradwch â'ch bydwraig am gefnogaeth.