Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Atal Cwympiadau

Dydd Llun 16 Medi 2024 – Dydd Gwener 20 Medi 2024

Yr wythnos hon, rydym yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd atal cwympiadau drwy addysgu ein staff, cleifion, a phreswylwyr ar reoli cwympiadau yn effeithiol, strategaethau atal, a nodi'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Mae atal cwympiadau yn hanfodol o ran gwella iechyd a lles oedolion hŷn - grwp sy’n cael eu heffeithio’n anghymesur gan gwympiadau ac anafiadau sy’n gysylltiedig â chwympiadau.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (2018), mae cwympiadau yn “un o brif bethau sy’n achosi anafiadau, anabledd, morbidrwydd a marwolaethau.” Mae cwympiadau yn broblem iechyd iechyd y cyhoedd enfawr yn fyd-eang ac mae’n parhau i fod yr ail ffactor mwyaf cyffredin sy’n achosi anafiadau a marwolaethau anfwriadol.

Mae Cymdeithas Geriatreg Prydain (2022) yn amlygu pwysigrwydd cynyddol rheoli cwympiadau, gan nodi, “Mae poblogaeth y byd yn heneiddio. Mae cwympiadau ac anafiadau sy’n gysylltiedig â hwy yn fwyfwy cyffredin, gan wneud eu hatal a’u rheoli yn her fyd-eang hollbwysig.”

 

Ffeithiau allweddol am gwympiadau:
  • Mae 28-35% o bobl 65 oed a hŷn yn cwympo bob blwyddyn, ac mae’r ganran yn cynyddu i 32-42% ar gyfer y rhai dros 70 oed .
  • Yn y DU, anafiadau sy'n gysylltiedig â chwympiadau yw'r achos marwolaeth mwyaf cyffredin ymhlith pobl sy’n hŷn na 75 oed.
  • Yn nodweddiadol, cleifion sy'n cwympo ac yn torri eu clun yn yr ysbyty yw'r cleifion hynaf a'r mwyaf bregus (RCP, NAIF 2020).
  • Cwympiadau yw’r digwyddiad yr adroddir amdano amlaf sy’n effeithio ar gleifion mewnol ysbytai.
  • Mae cleifion mewn mwy o berygl o gwympo wrth iddynt wella ar ôl cyfnodau acíwt a pharatoi ar gyfer cael eu rhyddhau.
  • Mae trosglwyddo cleifion rhwng wardiau neu ysbytai’n cynyddu'r risg o gwympo'n sylweddol.
  • Mae cleifion â dibyniaeth uwch mewn mwy o berygl o gwympo.

 

Pam Mae Atal Cwympiadau yn Bwysig

Nid problem iechyd corfforol yn unig yw cwympiadau; gallant gael effaith enfawr ar hyder ac annibyniaeth person. Ymysg oedolion hŷn, gall bod ofn cwympo arwain at lai o symudedd, mwy o unigedd, ac ansawdd bywyd is.  Drwy godi ymwybyddiaeth a rhoi strategaethau rheoli cwympiadau effeithiol ar waith, gallwn helpu i atal anafiadau a gwella lles cyffredinol ein poblogaeth sy’n heneiddio.

Trwy addysg a chydweithio, ein nod yw lleihau risg ein cleifion a’n preswylwyr o gwympo, gan sicrhau bod eu hadferiad a’u gweithgareddau dydd i ddydd mor ddiogel a chyfforddus â phosibl.

Trwy aros yn wybodus ac yn rhagweithiol, gallwn helpu i leihau nifer y cwympiadau a gwella canlyniadau'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf.

 

Ymwybyddiaeth Cwympiadau ar Ward y Plant

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Atal Cwympiadau, cynhaliodd Joy a Gwyn o’n timau Therapïau Celf ac Eiddilwch sesiwn dysgu pontio’r cenedlaethau ar Ward Plant Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Yn ystod y sesiwn. helpodd y plant Joy a Gwyn i greu cân y gallent eu canu i’w mam-gu a’u tad-cu ar sut i osgoi cwympo.

Dysgodd y sesiwn gerddorol ryngweithiol hon wers werthfawr i bawb ar sut i leihau’r risg o gwympiadau ymhlith pobl hŷn.