Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2026

Mae pawb yn teimlo straen – mae’n ymateb arferol i heriau bywyd. Ond pan fydd straen yn cronni, gall effeithio ar ein hwyliau, ein corff, a’n perthnasoedd.

Achosion cyffredin: pryderon ariannol, gwaith, problemau iechyd, perthnasoedd, arholiadau, neu newidiadau mawr mewn bywyd.

Ffyrdd o reoli straen:

  • Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo
  • Canolbwyntiwch ar 3 pheth da bob dydd
  • Rhowch gynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar neu ymlacio
  • Ymarferwch hunanofal
  • Archwiliwch adnoddau hunangymorth am ddim y GIG

Mae Melo yn cynnig adnoddau hunangymorth ar bynciau megis y menopos, pryder, iselder, rhianta, straen ac llawer iawn mwy. Chwiliwch am bwnc rydych angen cymorth ag ef yn y bar chwilio a gweld beth sydd ar gael: https://www.melo.cymru/cy/