Neidio i'r prif gynnwy

Y 'Shed Goed' yn Derbyn Cynhwysydd Llongau gan Laing O'Rourke

Dydd Gwener 11eg Medi 2020

Ar Ddydd Iau 10fed o Fedi, rhoddodd Laing O'Rourke, Prif Gontractwyr ar gyfer Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cynhwysydd Llongau i'r 'Shed Goed', a leolir yn Ysbyty Sant Cadog.

Mae'r 'Shed Goed' yn brosiect Therapi Gwaith Coed Iechyd Meddwl ar gyfer cleifion Iechyd Meddwl yn yr Ysbyty.

Ers i COVID-19 a mesurau Pellter Cymdeithasol gael eu cyflwyno, mae'r defnydd o'r Shed Goed wedi bod yn gyfyngedig. Dywed Becky, Dirprwy Reolwr Ward ar Ward Pillmawr, “Bydd y cynhwysydd hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r cleifion, gan y bydd yn caniatáu i fwy ohonynt ei ddefnyddio, maent wrth eu boddau yn dod yma ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar y cleifion.”

Meddai Peter Sharpe, Arweinydd Prosiect Laing O'Rourke, “ Laing O'Rourke yw'r prif gontractwyr sy'n cyflenwi Ysbyty newydd Athrofaol y Faenor gwerth £350m yng Nghwmbrân. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan gefnogi amryw o elusennau yn ystod 3 blynedd y cyfnod adeiladu. Yn fwy diweddar, rydym wedi rhoi cynhwysydd storio i'w ddefnyddio gan yr Elusen Tyfu Mannau, i'w cynorthwyo i ailgylchu pren a hen ddodrefn. Ar ôl i ni ailbaentio'r cynhwysydd a'i sefydlu yn ei le, yna, bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo i gefnogi adsefydlu cleifion yn Ysbyty St Cadog."