Neidio i'r prif gynnwy

Y Tim Diogelwch Cyfeillgar a'u Canu yn Cadw Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Ddiogel

15 Tachwedd 2022

Mae tîm o swyddogion diogelwch lleol yn gweithio'n galed i gadw staff y GIG ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod eu hymweliadau â safleoedd ysbytai. Mae Richard Lane (sef 'y Swyddog Diogelwch sy'n Canu') a Jordan Marsh yn rhedeg y gwasanaeth yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ers i'r adeilad agor yn 2020.

"Fy rôl i ydy tawelu meddwl pobl. Ar ddiwedd y dydd, mae diogelwch yn rhywbeth cadarnhaol.î Mae gwên, nod a bore da yn gwneud gwahaniaeth mawr," dywedodd Richard Lane, Swyddog Diogelwch.

Datblygodd rôl Richard yn ystod y pandemig. Gwelodd fod ei frwdfrydedd ynghylch canu a'i agwedd gadarnhaol yn helpu i gynnal morâl yn ystod cyfnodau caled. Mae'n amcangyfrif ei fod wedi canu i filoedd o drigolion Gwent, neu wedi siarad â nhw.

"Byddai rhai yn dweud eu bod nhw'n fy nghlywed dros y cymoedd, ond dydych chi byth yn gwybod beth mae rhywun yn mynd drwyddo. Mae'n braf teimlo ychydig o'r cynhesrwydd hwnnw, fel heulwen ar ddiwrnod glawog," ychwanegodd.

Mae elfen wahanol i ddiogelwch mewn amgylchedd gofal iechyd o'i gymharu ag amgylcheddau eraill, megis manwerthu a lletygarwch. Gydag ymweliadau gan gleifion bregus a gwael eu hiechyd, yn ogystal ag aelodau teulu sydd, o bosib, yn mynd drwy amser caled, mae tosturi yn flaenoriaeth.

 

"Yn aml iawn, ni ydy’r pwynt cyswllt cyntaf. Efallai fod gennym rywun sydd angen cymorth diogelwch, neu weithiau mae'n fater o fod yno i bobl, i gynnig cysur," meddai Jordan Marsh.

Cefndir yn y sector manwerthu sydd gan Jordan. Fe sylweddolodd ei fod wrth ei fodd yn defnyddio geiriau i gyfathrebu â phobl sydd angen cymorth. A gan fod cyfathrebu'n bwysig mewn unrhyw swydd gofal iechyd, roedd Jordan yn berffaith i'r swydd.

Mae angen i staff diogelwch fod wedi cael hyfforddiant SIA a meddu ar drwydded SIA. Mae hefyd angen iddynt fod yn ffit yn gorfforol, ond gan amlaf bydd sefyllfaoedd yn cael eu datrys drwy ofal tosturiol, gwrando a cheisio delio â phroblemau yn bwyllog a thawel.

Bydd y tîm yn mynd ar batrôl yn rheolaidd ac maent yn bresenoldeb cyson o gwmpas yr ysbyty ac yn yr adran achosion brys. Mae eu hagwedd lonyddol a'u parodrwydd i helpu yn amlwg, ac mae cleifion a staff wedi rhannu'r profiadau maent wedi'u cael gyda'r tîm. 

"Cawsom ein cyfarch gan ddau aelod o staff diogelwch hollol wych a'n helpodd ni. Fe ddywedon nhw wrthym pa ffordd oedd angen mynd ac aethon nhw i 'nôl cadair olwyn i fy merch yng nghyfraith. Roedden nhw'n rhagorol ac yn fwy na pharod i'n helpu," meddai Jane Jones, ymwelydd ag Ysbyty y Faenor.  

 

"Gall adrannau achosion brys fod yn amgylcheddau prysur ac emosiynol iawn. Mae rhywun yn dod ar draws pob emosiwn posib yno yn rheolaidd. Maen nhw wedi bod yn wych am gyfarch a dangos y ffordd i gleifion o gwmpas y safle, delio ag argyfyngau meddygol annisgwyl, yn ogystal â diogelu staff a chleifion pan fydd sefyllfa'n codi. Yn ystod sefyllfaoedd lle mae trais ac ymddygiad ymosodol wedi codi neu'n bosib o godi, mae'r tîm wedi bod yn wych am dawelu'r sefyllfa. Yn syml, ni fyddai'n bosib i ni wneud ein gwaith hebddyn nhw," meddai Dr Alastair Richards, Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Frys.

Fe gafodd mab Michaela ei ruthro i'r Faenor. "Roedd profiad brawychus yn llawer iawn haws o'u herwydd nhw," yn ogystal â staff anhygoel yr adran damweiniau ac achosion brys, meddai Michaela.

"Pan oeddem yn gweld y swyddogion diogelwch, roeddwn nhw'n ein rhoi ni mewn hwyliau gwell ac yn gwneud i mi wenu, ac rwy'n gwybod bod llawer o'n staff yn teimlo'r un fath. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddo am wneud inni wenu drwy'r holl heriau. Bob tro rydyn ni wedi cael galwad i fynd i'r adran famolaeth, rydyn ni wedi cael ymateb cadarnhaol a phrydlon gan y tîm diogelwch ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar am hynny," meddai Jayne Beasley, Pennaeth Interim Bydwreigiaeth.

Mae'r tîm yn y Faenor yn un o nifer o dimau diogelwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n parhau i weithio ddydd a nos i sicrhau bod pawb sy'n gweithio yno ac yn ymweld yn teimlo'n ddiogel.