Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n Barod i Helpu'ch Llesiant Meddyliol Gyda Melo?

Dydd Llun 22 Awst 2022

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein gwefan llesiant emosiynol a meddyliol, Melo, wedi cael ei diweddaru a’i hadnewyddu’n sylweddol.

Beth yw Melo?

Gwefan llawn gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim wedi’u cymeradwy gan arbenigwyr yn eu maes yw Melo. Ei bwriad yw helpu pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl a’u llesiant, ac i ymdopi ag adegau anodd yn eu bywyd.

Datblygwyd y wefan gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i helpu pobl i gael mwy o wybodaeth, sgiliau a hyder i ofalu am eu llesiant emosiynol a meddyliol- ac nawr mae'n well fyth!

Beth sy'n newydd?

Rydym wedi ei gwneud hi’n haws i bobl symud o gwmpas y wefan, gyda bariau chwilio clir ac adrannau a thudalennau symlach.

Hefyd, mae bellach yn cynnwys:

  • Mwy na 270 o adnoddau hunangymorth rhad ac am ddim, wedi'u cymeradwyo
  • Mynediad at 40 o gyrsiau hunangymorth rhad ac am ddim
  • Manylion ynghylch mwy na 70 o linellau cymorth a ble i gael adnoddau hunangymorth nad ydynt yn ddigidol
  • Gwybodaeth ynghylch hyfforddiant wedi’i ariannu i unrhyw un sy’n gweithio yng Ngwent.

Ewch i Melo Cymru - Adnoddau, Cyrsiau a Chymorth Iechyd Meddwl a Lles i weld!

 

 

Dilynwch Melo ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn pob un o’r sianeli Melo isod, er mwyn profi'r holl bethau gwych sydd gan Melo i’w cynnig i’w helpu i reoli eu llesiant emosiynol a meddyliol.

Instagram: @melo_cymru

Facebook: Melo Cymru Wales

Trydar: @melo_cymru