Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Rydym yn hynod bryderus am yr effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar gyflenwad nyrsys yn y dyfodol, yn enwedig ar adeg pan mae ein lefelau staffio eisoes dan bwysau sylweddol.
"Ein blaenoriaeth uniongyrchol yw sicrhau bod myfyrwyr nyrsio presennol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gwblhau eu hyfforddiant a dechrau eu gyrfaoedd yn hyderus.
"Rydym yn gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill i ddeall goblygiadau'r ymgynghoriad hwn yn llawn ac i sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith i ddiogelu'r gweithlu nyrsio yng Nghymru at y dyfodol.
"Mae ein hymrwymiad yn parhau i'n staff, ein myfyrwyr, a'r cleifion sy'n dibynnu arnom i ddarparu gofal o ansawdd uchel."