Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â Ni ar gyfer Diwrnod o Fyfyrdod Covid-19 8 Mawrth 2026

Cynhelir Diwrnod Myfyrio Covid ar 8 Mawrth eleni. Mae'n 'gyfle i ni ddod at ein gilydd yn ystod yr wythnos sy’n dilyn i gofio pawb sydd wedi colli eu bywydau ers dechrau'r pandemig, ac i anrhydeddu'r gwaith diflino, y tosturi a'r gweithredoedd o garedigrwydd a ddangoswyd trwy gydol y cyfnod digynsail hwnnw.'

 

Mae dwy ffordd y gallwch chi gymryd rhan yn y gwaith o nodi'r foment hon a chofio pawb yr effeithiodd pandemig Covid arnynt.

 

1. Coed Atgofion
O’r 6 Mawrth, bydd coed coffa gwyn yn cael eu gosod yng Nghysegrfeydd ein prif ysbytai. Fe'ch gwahoddir i ysgrifennu atgof neu enw ar galon las a'i hongian yn ysgafn ar y goeden. Bydd powlenni calonnau hefyd ar gael mewn sawl un o'n hunedau llai. Bydd caplaniaid yn casglu'r rhain a'u gosod ar y coed ar eich rhan.

 

2. Gwasanaethau Coffa
Bydd y Tîm Caplaniaeth a Phrofedigaeth Grace yn cynnal gwasanaeth coffa byr Ddydd Iau 12 Mawrth am 2:00yp yn y Cysegrfeydd yn ysbytai Brenhinol Gwent, Y Faenor, Nevill Hall ac Ystrad Fawr. Bydd y gwasanaeth yn para tua 20 munud a bydd yn cynnwys eiliadau o dawelwch, cynnau canhwyllau, a bydd cyfle i osod calon ar y coed cofio.

 

Rydym yn gobeithio y bydd y gweithredoedd myfyrio syml hyn yn golygu rhywbeth i bob un ohonom, gan ein helpu i gofio'r rheiny yr effeithir arnynt yn aml, ac i'w coffau.