Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliad Brenhinol Cyntaf Erioed ag Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Dathlu Cyflawniadau'r Gwasanaeth Mamolaeth

Croesawodd Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol heddiw ar gyfer ei Ymweliad Brenhinol cyntaf erioed ers agor yn 2020. 

Roedd ymweliad y Dywysoges Frenhinol yn dathlu gwaith arloesol gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n arwain y ffordd o ran hyrwyddo cymhwysedd diwylliannol a chyflawni gwelliannau a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Llywodraeth Cymru. 

Yn ystod yr ymweliad, aeth Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol ar daith o amgylch yr Uned Famolaeth yn yr ysbyty a chwrdd â staff sydd wedi bod yn allweddol wrth ymgorffori ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chynhwysiant ym mhob agwedd o ofal. Bu’r Dywysoges Frenhinol hefyd yn dadorchuddio plac coffa i nodi'r achlysur. 

Yn ddiweddar, cydnabuwyd gwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda Gwobr Arian Diverse Cymru am ei ymrwymiad i greu gwasanaeth caredig, cefnogol a diwylliannol gymwys lle mae gofal wedi'i bersonoli ac yn canolbwyntio ar anghenion a diwylliannau unigol. 

Roedd yr arloesiadau a arddangoswyd yn ystod yr ymweliad yn cynnwys: 

  • Cynllun gwirfoddoli mamolaeth sy'n cynnwys unigolion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, gan sicrhau bod cymunedau'n cael eu cynrychioli a'u cefnogi. 

  • Creu adnoddau amlieithog, gan gynnwys fideos ar gyfer y gymuned Roma, i ddarparu gwybodaeth famolaeth hygyrch. 

  • Clinigau arbenigol sy'n ymroddedig i gefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig. 

  • Gweithgor Cydraddoldeb amlddisgyblaethol sy'n gyrru gwelliannau mewn cymhwysedd diwylliannol a chynhwysiant yn barhaus. 

 

Mae'r cyflawniadau hyn wedi'u gyrru gan arweinyddiaeth angerddol o fewn y tîm mamolaeth, gan gynnwys y Fydwraig Ymgynghorol Emma Mills, a gafodd ei chydnabod yn 2023 gyda Gwobr y Prif Swyddog Bydwreigiaeth ac sy'n Gymrawd Coleg Brenhinol y Bydwragedd. 
 
Dywedodd Ann Lloyd CBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Mae heddiw'n foment hanesyddol i Ysbyty Athrofaol y Faenor ac i bawb ar draws ein Bwrdd Iechyd. Roedd yn anrhydedd i ni groesawu Ei Uchelder y Dywysoges Frenhinol ac arddangos gwaith eithriadol ein timau mamolaeth, sy'n gosod safonau cenedlaethol mewn cymhwysedd diwylliannol a gofal cynhwysol.  

"Roedd yr ymweliad hwn yn gydnabyddiaeth wych o'u hymroddiad i sicrhau bod pob person, o bob cefndir, yn derbyn gofal mamolaeth ddiogel, barchus a phersonol." 

Dywedodd Jayne Beasley, Pennaeth Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Roedd yn fraint llwyr rhannu ein taith gyda'r Dywysoges Frenhinol heddiw. Mae ein tîm yn angerddol am greu amgylchedd lle mae pob person yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei ddeall a'i gefnogi. 

"Mae'r prosiectau rydyn ni wedi'u cyflwyno - o gynlluniau gwirfoddoli cymunedol i adnoddau amlieithog - i gyd wedi dod o wrando ar leisiau'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae'r ymweliad heddiw yn anrhydedd enfawr i'n staff ac i'r cymunedau sydd wedi gweithio gyda ni i wireddu'r weledigaeth hon."