Y Nadolig hwn, mae nifer o ymwelwyr gwych wedi llenwi ein hysbytai â charedigrwydd a haelioni.
Yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, bu plant y wardiau yn creu atgofion hud diolch i Glwb Pêl-droed Sir Casnewydd, Clwb Rygbi'r Dreigiau, Hasbro, TLC Bears a Dreams and Wishes. O arwyr a thywysogesau i Siôn Corn, Mickey a Minnie, a hyd yn oed merlen gan y Gwarchodlu Cymreig, daeth pob ymweliad â gwên a hwyl yr ŵyl i blant, teuluoedd, a staff.
Yn Ysbyty Brenhinol Gwent, bu Côr Ffilharmonig Casnewydd ac Ysgol Gynradd Dewi Sant yn creu awyrgylchoedd arbennig gyda’u carolau Nadolig swynol, wrth godi ysbryd a dod â llawenydd i gleifion a staff.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhannu eu hamser a'u caredigrwydd gyda'n cleifion a'n timau, diolch!