Neidio i'r prif gynnwy

Yn Cydnabod ein Cydweithwyr Anhygoel ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod!

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022

Bu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar 8 Mawrth, yn dathlu llwyddiannau menywod ar draws y byd.

Heddiw, rydym yn dathlu llwyddiannau ein staff, sy'n cyflawni gwaith anhygoel bob dydd yn eu rolau.

Wrth gynrychioli 81% o weithlu ein Bwrdd Iechyd, ni allwn gwneud yr hyn a wnawn hebddynt!


Menywod ym Maes Cyfleusterau

Yn hanesyddol, byddai rhai rolau yn y maes Cyfleusterau, megis gweithwyr adeiladu, porthorion a staff diogelwch, yn cael eu llenwi'n bennaf gan ddynion. Dewch i gwrdd â dwy fenyw sy'n arwain y ffordd ar i'n gweithlu Cyfleusterau benywaidd.

 

Rachel Jones, Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chydymffurfiaeth

Bu diddordeb mawr mewn pensaernïaeth gan Rachel erioed. Yn dod o weithio mewn canolfan alwadau, roedd hi bob amser yn ceisio dysgu mwy, ac ar ôl gwaith caled ac ymroddiad, mae hi bellach yn Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chydymffurfiaeth.

Dywedodd Rachel: “Mae'n llawer fwy na'r adeilad yn unig pan fo ysbyty ar agor 24 awr ac yn methu fforddio cael ei gau. Gan weithio ar draws y Bwrdd Iechyd gyda thimau ystadau, masnachwyr a chontractwyr gwahanol, mae pob diwrnod yn wahanol; o ddiogelwch tân, i ddylunio a rheoli adeiladau.

“Mae’n ymwneud ag esblygu ac eisiau gwella ond cadw’r cysondeb hwnnw, o swyddi bach fel gosod drws i brosiectau enfawr. Mae’n dîm mor wych yma i fy helpu i wneud fy swydd a ffynnu.”

 

Terry Thurgar, Cogydd, Ysbyty Brenhinol Gwent

Gadawodd Terry yr ysgol yn 16 oed a daeth yn Gogydd dan Hyfforddiant gyda'r Bwrdd Iechyd ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. 45 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r Bwrdd Iechyd yn falch iawn o ddathlu'r yrfa wych y mae hi wedi'i chael gyda'r GIG.

Dieteteg fu arbenigedd Terry erioed ac mae ganddi bellach gronfa enfawr o wybodaeth y mae'n ei defnyddio i greu prydau i gleifion â diet arbenigol. Mae'r gegin yn aml yn lle prysur, ond mae yna wastad lle i ofal ychwanegol wrth ddelio â bwyd.

Dywedodd Terry: “Dw i'n dwli ar brydau sydd wedi’u coginio gartref, a fy angerdd bob amser yw sut i ddod â hynny i mewn i’r hyn rydyn ni’n ei ddarparu i gleifion.

“Rydw i wastad wedi mwynhau bod yn agos at y llawr gweithredol er mwyn bod yn ymwybodol o'r hyn sy’n digwydd. Mae'n bleser mawr deall a chydymdeimlo â'ch staff, ac ennill eu parch trwy gyfeillgarwch a thegwch yw fy nghyflawniad mwyaf.

“Waeth beth yw rôl eich swydd yn y GIG, rydyn ni i gyd yma i ddarparu’r gwasanaeth gorau i gleifion.”

 


Er anrhydedd i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, gofynnwyd i'n staff enwebu eu cydweithwyr benywaidd a dweud wrthym pam eu bod mor falch o'u cydweithwyr gweithgar. Dysgwch fwy am gyflawniadau ein gweithlu benywaidd isod.

 

Rebecca Carpenter, Uwch Therapydd Clyw, Awdioleg

“Gall Rebecca wrando’n astud, hyrwyddo gofal sy’n canolbwyntio ar y claf a rhoi cyngor anhygoel, ac mae hyn yn dod yn naturiol iddi. Mae'n camu ymhell y tu allan i'w swydd bob amser i gefnogi'r tîm, annog gwelliannau i'r gwasanaeth a helpu cleifion.

“Mae hi'n ddygn, yn weithgar ac yn gydweithiwr gwych, ysbrydoledig i'w chael o gwmpas. Mae hi'n gwneud hyn i gyd gyda gwên belydrog bob amser hefyd.

“Mae Rebecca yn cael ei hedmygu gan bawb- staff a chleifion ynghŷd ac rydyn ni i gyd yn troi ati am gyngor. Mae ei phrofiad, ei chyfoeth o wybodaeth a’i hygyrchedd yn ffantastig.”

 

Helen Cook, Arweinydd Tîm yr Adran Ffisiotherapi i Oedolion ag Anableddau Dysgu

“Mae Helen yn ddynes bwerus, yn arwain trwy esiampl. Ni fydd hi byth yn gofyn i unrhyw un o'i thîm wneud rhywbeth na fyddai'n ei wneud ei hun. Mae ganddi amser ar gyfer ei staff bob amser, waeth pa mor brysur yw hi. Mae ei drws bob amser ar agor.

“Menyw actifydd sy’n credu mewn eiriolaeth dros hawliau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd menywod, yn enwedig o ran cydraddoldeb y rhywiau. Bob amser yn tynnu sylw at chwaraeon anabledd, y Gemau Paralympaidd, rygbi/criced/pêl-droed merched.

“Rydyn ni i gyd yn edrych i fyny ati am lawer o werthoedd ac ni fyddem ei eisiau mewn unrhyw ffordd arall.”

 

Vicki Jones, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol

“Rwy’n enwebu Vicki am ei hymroddiad parhaus i Ddeintyddiaeth Gofal Arbennig. Fe wnaeth Vicki, yn ystod cyfnod anodd iawn i bawb, ein cefnogi ni i gyd trwy gydol y pandemig, gan sicrhau ein bod ni i gyd yn cael ein cadw'n ddiogel a'n bod ni'n cael y wybodaeth ddiweddaraf bob amser.

“Vicki yw asgwrn cefn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, ac rydym yn ffodus i’w chael fel ein Cyfarwyddwr Clinigol.”

 

Collette Kiernan, Cyfarwyddwr Clinigol Therapïau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

“Mae Collette yn arweinydd ysbrydoledig ac wedi darparu arweinyddiaeth glir a chyson yn ystod cyfnod digynsail. Mae hi ar flaen y gad ac mae wedi parhau i'n harwain wrth i ni ymateb i heriau cynyddol anodd wrth ddarparu gofal iechyd.
“Mae Collette yn cyflawni bopeth a wnawn â chynhesrwydd a hiwmor sy'n codi ei thîm, hyd yn oed yn yr amseroedd mwyaf heriol. Er yr holl bwysau, mae hi’n llawn pryder amdanom ni fel unigolion a’r timau rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

“Mae Collette wedi arwain therapïau trwy’r amser mwyaf rhyfeddol, gyda thosturi a chwerthin.”

 

 Nicky Smith, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

“Mae Nicky yn un o’r nyrsys mwyaf caredig a gofalgar rydw i wedi gweithio gyda nhw. Collodd hi, fel llawer o rai eraill, anwyliaid trwy'r pandemig. Gwisgodd Nicky wyneb dewr a bwrw ymlaen â'i swydd, gan roi'r cleifion yn gyntaf bob amser. Roedd yn anodd i bawb ac roedd llawer ohonom yn teimlo'n flinedig ac wedi blino'n lân. Aeth Nicky y tu hwnt i gadw morâl staff i fyny gan ofalu amdanom ni i gyd. Pan nad oedd gan gleifion deulu, byddai Nicky yn gwario ei harian ei hun yn sicrhau bod ganddynt beth bynnag oedd ei angen arnynt. Defnyddiodd ei ffôn symudol ei hun hefyd i alluogi teuluoedd i siarad ag anwyliaid. Mae'r cleifion bob amser yn ei chanmol am bopeth y mae'n ei wneud drostynt.


“Mae’r tîm ar Ward Rhisga yn ffodus i’w chael hi a’r cleifion. Mae cymaint o bethau i'w dweud am Nicky ond dim digon o le i'w ysgrifennu. Diolch yn fawr iawn am bopeth rydych chi wedi'i wneud i ni ar ward Rhisga. Dydw i ddim yn meddwl y bydden ni wedi dod drwy’r ddwy flynedd ddiwethaf heboch chi.”

Dr Rachel Squires, Ymgynghorydd Gynaecoleg

“Mae Rachel yn fodel rôl gwirioneddol anhygoel ar gyfer ei chyfoedion a staff iau fel ei gilydd. Mae hi'n gweithio'n ddiflino i gefnogi ei chydweithwyr, yn ogystal â'i chleifion niferus. Mae hi wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’r adran yn ei rôl fel Arweinydd Clinigol ar gyfer ein Gwasanaethau Ffrwythlondeb a Camesgoriad Rheolaidd, mae ei hetheg gwaith yn ahygoel ac mae’n mynd allan o'i ffordd i helpu a chefnogi ei chleifion.

“Mae ei chleifion yn ei charu oherwydd mae’n rhoi amser iddyn nhw siarad am sut mae’r maes hynod ddinistriol, hynod emosiynol hwn, yn effeithio mor drwm ar eu bywydau.

“Rwy’n credu ei bod yn haeddu cydnabyddiaeth am ei gwaith caled a’i brwydr barhaus i wella’r gwasanaeth.”

 

Wendy Trump, Prif Awdiolegydd, Awdioleg

“Wendy yw’r arweinydd mwyaf hawdd siarad â hi, cyfeillgar, gofalgar a thosturiol, sy’n dangos cryfder o’i gallu anhygoel fel clinigwr, ond hefyd fel arweinydd.

“Mae hi’n poeni’n angerddol am Awdioleg ac yn gyrru’r gwasanaeth ar gyfer gwelliannau a’n hysgogi ni ar hyd y ffordd hefyd.

“Rydw i wedi gweithio â Wendy ers bron i 10 mlynedd. Rwyf wedi dysgu cymaint o’i gallu i wrando, ei natur empathig a’i chalon garedig. Mae hi wir yn poeni a byth yn cael y clod mae hi'n ei haeddu. Mae hi’n ased i’n hadran, ac i’r GIG yn ei gyfanrwydd. Rwy’n aml yn defnyddio’r mantra, ‘sut byddai Wendy yn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon?’.”

 

Josie Williams, Arweinydd Tîm / Therapydd, Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol, Torfaen

“Rwy’n enwebu’r ddynes hollol anhygoel hon, gan ei bod wedi gweithio mor galed i gyrraedd lle mae hi. Mae ganddi’r gallu rhyfeddol hwn i roi ei chydweithwyr o’i blaen bob amser- mae hi’n gefnogol, ac yn dosturiol i bawb y mae’n cwrdd â nhw, ac, fel bonws, mae hi’n ddoniol hefyd!

“Roedd Josie yn olau disglair i mi, ynghyd â llawer o gydweithwyr, pan gafodd y byd ei droi wyneb i waered oherwydd y pandemig. Does dim digon o eiriau i gyfleu pa mor wybodus, gofalgar, cynhwysol, ac yn rhyfeddol yn gyffredinol yw’r gweithiwr hwn o’r GIG!”