Neidio i'r prif gynnwy

Yn Cyflwyno Uned Gofal Brys ar yr Un Diwrnod (SDEC) yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Dydd Mawrth 23 Awst 2022

Mae ein Hadran Frys a’n gwasanaethau yn parhau i fod yn hynod brysur ac rydym yn gwybod y bydd tymor y gaeaf yn creu pwysau ychwanegol.

Er mwyn helpu i leihau’r pwysau hyn, rydym wedi cyflwyno Uned Gofal Brys ar yr Un Diwrnod (SDEC) yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Mae’r uned newydd hon, wedi’i datblygu gyda buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig triniaeth ac asesiadau ar yr un diwrnod. Golyga hyn y bydd rhagor o gleifion yn cael gofal brys heb orfod aros yn yr ysbyty dros nos, gan olygu y bydd rhagor o welyau ar gael ar gyfer unigolion sydd eu hangen fwyaf.

Nid oes modd ichi gyflwyno eich hun yn SDEC. Bydd rhaid i’ch Meddyg Teulu neu nyrs ardal yn yr Adran Frys eich asesu chi cyn ichi allu mynychu’r uned.