Mae Dr Lauren Harrhy, Prif Ddeintydd ym Mhractis Deintyddol Sparkle, yn esbonio beth i edrych amdano os oes gennych broblemau parhaus ar ôl cael dant allan, neu os ydych chi'n delio â haint deintyddol.
Sepsis yw ymateb eithafol eich corff i haint, gall achosi niwed i feinweoedd, methiant organau, a hyd yn oed marwolaeth.
Oes gan oedolyn neu blentyn hŷn unrhyw un o'r symptomau sepsis canlynol:
Lleferydd aneglur neu ddryswch
Cryndod eithafol neu boen yn y cyhyrau
Pasio dim wrin (mewn diwrnod)
Diffyg anadl difrifol
Teimlo eich bod chi am farw
Croen brith neu liw anarferol
Os ydych chi'n teimlo'n ddifrifol o sâl ar ôl problem ddeintyddol, peidiwch ag aros, ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith.