Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023
Hoffem longyfarch yr Athro Euan Hails MBE, Nyrs Ymgynghorol mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Arbenigol (S-CAMHS), a dderbyniodd deitl 'Nyrs y Frenhines' yng Ngwobrau Sefydliad Nyrsio'r Frenhines.
Mae rhaglen Nyrs y Frenhines yn dod â nyrsys cymunedol at ei gilydd i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a darparu gofal rhagorol i gleifion yn y gymuned.
Mae teitl Nyrs y Frenhines (QN) ar gael i nyrsys unigol sydd wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad i ofal glaf ac ymarfer nyrsio. Darganfyddwch fwy yma: Nyrsys y Frenhines – Sefydliad Nyrsio'r Frenhines (qni.org.uk)
"Cefais fy nghefnogi i dderbyn fy QN gan Jenny Winslade (Cyfarwyddiaeth Weithredol Nyrsio), Chris Overs (Nyrs Adrannol ar gyfer Teulu a Therapïau) a Kolade Gamel (Rheolwr Grŵp Gwasanaeth ar gyfer Teulu a Therapïau) gan y Bwrdd Iechyd, Andrew Homfray, Rheolwr Gwasanaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Alan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Adferiad," meddai Euan.
"O safbwynt nyrsio, mae teitl Nyrs y Frenhines yn uchel ei fri ac mae'n cydnabod ein hymarfer nyrsio cymunedol mewn CAMHS, ar draws yr Is-adran Teulu a Therapïau a’r Bwrdd Iechyd, ac rwy'n falch iawn o fod yn un."