Roedd Tîm Iechyd y Cyhoedd Gwent, mewn partneriaeth â Plan UK, Dragons RFC, Ymgyrch Sain Llywodraeth Cymru, a thîm rhanbarthol Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent (VAWDASV), yn falch o groesawu’r siaradwr TEDx enwog, yr awdur poblogaidd, a sylfaenydd y mudiad byd-eang She Is Not Your Rehab, Matt Brown.
Dywedodd Matt Brown:
“Mae'r mudiad hwn yn ymwneud â mwy na chodi ymwybyddiaeth yn unig - mae'n ymwneud â chymryd perchnogaeth o'n hiachâd, herio'r cylchoedd rydyn ni wedi'u hetifeddu, a dewis gwneud y gwaith dewr o ddod yn fannau diogel ar gyfer iachâd a chysylltiad. Daeth Gwent yma gyda chalon, gonestrwydd, a pharodrwydd gwirioneddol i newid. Rwy’n falch o fod wedi rhannu gofod gyda’r gymuned hon.”
Siaradodd Matt Brown, eiriolwr a gaiff ei glodfori yn fyd eang, am dorri cylchoedd cam-drin domestig, hunan-werth ac iachâd, yng Nghlwb Rygbi’r Dreigiau yng Nghasnewydd i gynulleidfa o tua 200 a bu hefyd yn ymweld a nifer o ysgolion lleol. Nod ei neges sy’n grymuso ac yn trawsnewid yw ysbrydoli unigolion, teuluoedd a chymunedau i fynd i'r afael ag effeithiau cam-drin domestig sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn a chreu llwybrau at iachâd.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o ymdrech gydweithredol Tîm Iechyd y Cyhoedd Gwent, tîm rhanbarthol VAWDASV Gwent ac eraill i roi terfyn ar gam-drin domestig yng Ngwent.
Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Gwent:
Mae ymweliad Matt Brown â Gwent yn gam pwerus ac ystyrlon yn ein cyd-cenhadaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig, a thrais rhywiol ledled Gwent. Mae ei neges wrth-drais yn canolbwyntio ar dorri cylchoedd trawma a cham-drin trwy annog perthnasoedd diogel, iach - dull sy'n cyd-fynd yn berffaith â'n nod o atal niwed cyn iddo ddigwydd.
Mae gan ddynion a bechgyn rôl hollbwysig wrth roi terfyn ar drais, a rhaid inni gydnabod bod y syniadau niweidiol hynny am wrywdod, sy’n cyfrannu at drais yn erbyn menywod, hefyd yn effeithio’n negyddol ar ddynion a bechgyn. Trwy greu man diogel ar gyfer sgyrsiau agored, dan arweiniad arweinydd profiadol ac uchel ei barch fel Matt, rydym yn gobeithio sbarduno newid gwirioneddol ac ysbrydoli gweithredu cadarnhaol yn ein cymunedau.
Gall dynion ddarganfod mwy am drais ar sail rhywedd trwy ymweld â Sain | LLYWODRAETH CYMRU.