Ddoe, nododd Ysbyty Brenhinol Gwent garreg filltir hanesyddol wrth ddod y cyntaf yng Nghymru i gynnal llawdriniaeth colorectal gan ddefnyddio’r robot llawfeddygol uwch, Da Vinci.
Arweiniwyd y llawdriniaethau arloesol hyn gan yr Ymgynghorwyr Llawfeddygol Mr Codd a Mr Williamson o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan osod ardal Gwent ar flaen y gad o ran arloesi llawfeddygol.
Mae’r robot Da Vinci yn galluogi llawfeddygon i gyflawni triniaethau cymhleth drwy doriadau bach, gyda mwy o fanwl gywirdeb a llai o drawma i’r corff, gan arwain at well adferiad i gleifion.
“Roedd hwn yn gam hanesyddol i ofal llawfeddygol yng Nghymru,” meddai Mr Jeremy Williamson. “Fe wnaeth cywirdeb y llawfeddygaeth robotig ein helpu i gyflawni triniaethau manwl gyda llai o effaith ar y corff - yn gwella’r canlyniadau ac yn cyflymu adferiad y claf.”
Ychwanegodd Mr Rhodri Codd: “Rydym yn hynod falch o ddod â’r dechnoleg hon i’n cleifion yng Ngwent, ac yn ddiolchgar i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am eu cefnogaeth wrth wireddu ein gweledigaeth o ddarparu gofal llawfeddygol o’r radd flaenaf.”