Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Nevill Hall yn derbyn Gwobr Arwyr Cymunedol

Dydd Iau 24 Rhagfyr 2020

Rydym yn falch iawn o'n staff yn Ysbyty Nevill Hall, sydd wedi derbyn Gwobr Arwyr Cymunedol gan Eglwys Gateway yn y Fenni am eu holl waith caled drwy gydol y flwyddyn. Derbyniodd y Rheolwr Gweithredol Cynorthwyol, Amanda Jones, y wobr ar ran y staff a'r cleifion yn Ysbyty Nevill Hall.

Dywedodd "Mae pawb yn Nevill Hall yn gweithio â balchder ac angerdd, ac rwy'n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o'r tîm hwnnw ers 1985. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb ar draws y safle am eu hymroddiad a'u cefnogaeth drwy gyfnod mor anodd. Rydym mor ddiolchgar i Gymuned Eglwys Gateway am ddosbarthu cannoedd o brydau bwyd i'n holl staff."

Llongyfarchiadau i bawb yn Ysbyty Nevill Hall!