Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd y Cabinet yn agor Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills yn swyddogol

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn hynod falch o ddathlu agoriad swyddogol Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills ddydd Iau 13eg Tachwedd 2025, gyda seremoni arbennig dan arweiniad Jeremy Miles MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills wedi’i lleoli wrth galon ei chymuned ac mae’n cynrychioli carreg filltir bwysig o ran ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i ddarparu gofal integredig, sy'n canolbwyntio ar y person. Mae'r Ganolfan yn dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau o dan un to, gan gefnogi lles corfforol yn ogystal â lles meddyliol a'i gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt, yn agosach at adref.

Mae'r Ganolfan yn rhan allweddol o Raglen Dyfodol Clinigol y Bwrdd Iechyd, sy'n gweddnewid gofal iechyd ledled Gwent drwy symud mwy o wasanaethau i leoliadau cymunedol a lleihau dibyniaeth ar ofal mewn ysbytai. Mae'n cynnig amgylchedd croesawgar a modern i gleifion, staff ac ymwelwyr, ac mae mannau pwrpasol ynddi ar gyfer gofal sylfaenol, cymorth iechyd meddwl, gwasanaethau cymunedol a mentrau lles.

Wrth siarad yn y seremoni agoriadol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS:

"Pleser pur yw agor Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills yn swyddogol heddiw. Mae'r ganolfan hon yn rhan o'n hymrwymiad i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o gyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ledled Cymru – gan ddod â gofal i galon cymunedau lleol, yn llawer agosach at gartrefi pobl.

“Mae canolfannau fel 19 Hills yn allweddol o ran cefnogi pobl i fyw, ac aros, yn iach – gan eu helpu i reoli eu cyflyrau iechyd eu hunain ac atal derbyniadau diangen i’r ysbyty. Mae hon yn enghraifft bwerus o sut y gall cynllunio strategol hirdymor a gweithio ar y cyd wir weddnewid cymunedau.

“Dyma ddyfodol gofal iechyd yng Nghymru – gwasanaethau integredig wedi’u gwreiddio’n gadarn yn y gymuned ac wedi’u cynllunio o amgylch anghenion pobl leol.”

Mynychwyd y digwyddiad gan westeion gan gynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, sefydliadau partner, ac aelodau o'r timau adeiladu a dylunio a helpodd i ddod â'r ganolfan yn fyw. Ymunodd staff o bob cwr o'r Bwrdd Iechyd â'r dathliad hefyd, gan nodi uchafbwynt blynyddoedd o gynllunio a chydweithio.

Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Rydym wrth ein bodd yn agor Canolfan Iechyd a Lles 19 Hills yn swyddogol – cyfleuster sy’n adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Ngwent. Mae'r Ganolfan hon yn fwy nac adeilad yn unig; mae'n ganolfan ar gyfer gofal integredig, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi pobl yn y cymunedau lleol i fyw bywydau iachach a mwy cysylltiedig.

“Mae ein timau wedi gweithio’n anhygoel o galed i greu lle sy’n hyrwyddo lles ym mhob ystyr – o’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig i’r amgylchedd y mae’n ei ddarparu. Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni ac yn ddiolchgar i'n holl bartneriaid a’n helpodd i wireddu'r weledigaeth hon.”

Rhoddwyd llawer o feddwl i’r dyluniad, ac mae'r Ganolfan yn cynnwys golau naturiol a mannau hyblyg y gall y gymuned eu defnyddio.  Bydd yn gwasanaethu fel canolfan ar gyfer arloesedd mewn gofal integredig, gan gefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u lles yn hyderus.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn estyn ei ddiolch diffuant i'r holl bartneriaid, contractwyr a staff a gyfrannodd at gyflawniad llwyddiannus y prosiect hwn.