Mae Aroswch ŷn Iach Gartref - E-TEC Gwent yn wasanaeth monitro anymwthiol, rhad ac am ddim, sy’n cael ei brofi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) mewn partneriaeth â darparwr monitro cartrefi clyfar o’r enw Howz. Nod y system hon yw helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth drwy gefnogi pobl i fod yn fwy diogel gartref am gyfnod hwy.
Mae ar gael i’r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddementia ac sy’n byw yn ardal Blaenau Gwent ac yn derbyn gofal gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn BIPAB ar hyn o bryd.