1. Beth os byddaf yn newid fy meddwl?
Caiff Aroswch ŷn Iach Gartref ei ddarparu gyda chaniatâd yr unigolyn a’i deulu. Gellir dileu'r gwasanaeth os byddwch yn newid eich meddwl. Er mwyn gwneud hyn, gallwch gysylltu â rhif gwasanaeth cymorth Howz neu eich Gwasanaeth Asesu Cof lleol.
2. Oes rhaid i mi dderbyn y gwasanaeth?
Nac oes. Chi sydd i benderfynu a hoffech dderbyn y gwasanaeth ai peidio. Ychwanegiad i'ch gofal arferol yw hwn, ac ni fydd yn effeithio ar y gofal hwnnw. Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn penderfynu rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth, ni fydd eich penderfyniad yn effeithio ar eich hawliau a safon y gofal y byddwch yn ei derbyn mewn unrhyw fodd. Nid oes rhaid i chi dderbyn y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn penderfynu derbyn y gwasanaeth, gallwch roi'r gorau i'w ddefnyddio ar unrhyw adeg ac nid oes rhaid i chi roi rheswm dros wneud hynny.
3. Sut caiff yr wybodaeth ei storio ac a yw'n ddiogel?
Mae’r holl systemau a gaiff eu defnyddio wedi cael eu hadolygu gan y Bwrdd Iechyd, sy’n hyderus yn eu defnydd a’u diogelwch.
4. Pa wybodaeth y gallaf i gael mynediad iddi?
Gallwch weld a chael mynediad i wybodaeth berthnasol a gasglwyd trwy eich dangosfwrdd personol eich hun. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio ffôn clyfar, llechen glyfar neu gyfrifiadur. Yn ogystal â hyn, gall unigolyn/unigolion yr ydych yn eu henwebu gael mynediad i'r un manylion hefyd.
5. Am ba hyd y bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnig?
Cynigir y gwasanaeth hwn am gyfnod prawf o flwyddyn i ddechrau. Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
6. Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghof yn gwaethygu?
Bydd y Gwasanaeth Asesu Cof yn trafod beth hoffech chi ei weld yn digwydd yn y dyfodol.