Neidio i'r prif gynnwy

Mwy Am y Gwasanaeth

Mae gwasanaeth newydd Aroswch ŷn Iach Gartref - E-TEC Gwent yn cael ei brofi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn partneriaeth â darparwr monitro cartrefi clyfar o’r enw Howz.  Ei brif nod yw helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi a lleihau'r angen arnynt i fynd i'r ysbyty. Cynigir y gwasanaeth o Ionawr 2023 ymlaen i bobl â dementia, ac i'w gofalwyr, sy'n byw ym Mwrdeistref Blaenau Gwent.

Mae'r gwasanaeth newydd wedi ei seilio ar system o'r enw Howz, sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae'r dechnoleg yn dadansoddi data a gesglir gan ddyfeisiau digidol a gaiff eu gosod yng nghartref unigolyn i fonitro iechyd corfforol, megis tymheredd.  Gall y dyfeisiau hefyd nodi newidiadau sylweddol mewn ymddygiad, megis llai o symudiad yn y cartref, a allai fod yn arwydd bod unigolyn yn sâl neu wedi cwympo o bosibl. Os canfyddir problem, bydd rhybudd yn cael ei amlygu a bydd Tîm Cymorth Howz yn sicrhau bod yr unigolyn yn cael y cymorth ac arweiniad angenrheidiol. Gellir cysylltu â Thîm Cymorth Howz rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.