A allaf newid fy meddwl am y gwasanaeth?
Gallwch, caiff Aros yn lach Gartref ei ddarparu gyda chaniatâd yr unigolyn a’i deulu. Gellir dileu'r gwasanaeth os byddwch yn newid eich meddwl. Er mwyn gwneud hyn, gallwch gysylltu â rhif gwasanaeth cymorth Howz neu eich Gwasanaeth Asesu Cof lleol.
Oes rhaid i mi dderbyn y gwasanaeth?
Nac oes. Chi sydd i benderfynu a hoffech dderbyn y gwasanaeth ai peidio. Ychwanegiad i'ch gofal arferol yw hwn, ac ni fydd yn effeithio ar y gofal hwnnw. Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn penderfynu rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth, ni fydd eich penderfyniad yn effeithio ar eich hawliau a safon y gofal y byddwch yn ei dderbyn mewn unrhyw fodd. Nid oes rhaid i chi dderbyn y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn penderfynu derbyn y gwasanaeth, gallwch roi'r gorau i'w ddefnyddio ar unrhyw adeg ac nid oes rhaid i chi roi rheswm dros wneud hynny.