Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd y gwasanaeth yn gweithio i gefnogi rhywun?

 
  • Bydd pobl sy'n ymuno â'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn derbyn pecyn o ddyfeisiau wedi'i deilwra, a allai gynnwys llechen glyfar, thermomedr digidol, ocsifesurydd pwls digidol, a synwyryddion clyfar a phlwg.
     
  • Rhoddir cymorth ac arweiniad ar sut i osod a defnyddio'r dyfeisiau hyn. Gall Howz hefyd ddarparu cysylltiad rhyngrwyd i'r rhai sydd heb gyswllt ar hyn o bryd.
     
  • Wedi iddynt gael eu gosod, efallai y gofynnir i bobl ddefnyddio dyfeisiau meddygol fel thermomedr ac ocsifesurydd yn rheolaidd a darparu'r canlyniadau.  Efallai y gofynnir i bobl ateb holiadur byr am eu hiechyd a'u llesiant.
     
  • Bydd dyfeisiau amgylcheddol megis synwyryddion a phlygiau yn mesur lefelau gweithgarwch yn y cartref. Gallai gostyngiad sylweddol mewn gweithgarwch fod yn arwydd nad yw unigolyn yn hwylus.
     
  • Caiff data o'r dyfeisiau eu dadansoddi gan y tîm monitro yn Howz i adnabod newidiadau mewn patrymau ymddygiad.  Byddant yn ymchwilio i unrhyw rybuddion ac yn darparu'r cyngor a chymorth dilynol angenrheidiol. Bydd Howz a'r Gwasanaeth Asesu Cof yn darparu cyngor a chymorth dilynol.
     
  • Cedwir yr holl ddata a gesglir gan y dyfeisiau'n gyfrinachol a chaiff ei storio'n ddiogel. Ceir rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddiogelu yma.