Gwasanaethau Seicoleg Glinigol mewn Lleoliadau Iechyd Corfforol
Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Iechyd Corfforol yn Ysbyty Gwynllyw, Casnewydd, yn gweithio gyda phobl â chyflyrau iechyd corfforol i'w cefnogi i addasu ac ymdopi â salwch neu anafiadau.
Nod y gwasanaeth yw lleihau'r effaith y gall salwch, anaf neu driniaeth ei chael ar fywydau pobl, a gwella ansawdd eu bywyd ar yr un pryd. Rydym yn cynnig cyngor, cyfeirio, asesu ac ymyriadau seicolegol i bobl sy'n byw gydag amrywiaeth eang o gyflyrau.
Rydym yn cynnig cefnogaeth seicolegol ar gyfer anawsterau sy'n gysylltiedig â chyflwr iechyd unigolyn, fel:
- Anhawster addasu i gyflwr meddygol, anaf neu boen cronig
- Iselder a theimladau o golled
- Rheoli pryder, teimladau o banig neu ansicrwydd
- Newidiadau mewn cymhelliant, neu ei chael hi'n anodd methu â gwneud pethau rydych chi'n eu gwneud fel arfer
- Anawsterau teuluol a / neu berthynas
- Anhawster rhoi strategaethau ar waith ar gyfer hunanofal neu reoli eich cyflwr iechyd
- Deall a rheoli profiadau neu atgofion anodd sy'n gysylltiedig â'ch cyflwr iechyd
|
Cysylltwch
|
Ffôn: 01633 238 292
Oriau Swyddfa: Dydd Llun i Ddydd Gwener 9:00 yb - 5:00 yp
|
Ble rydym ni?
|
Adran Seicoleg Glinigol Ysbyty St Woolos Stow Hill Casnewydd NP20 4SZ |
|