Mae'n ddrwg iawn gennym am eich collad. Bydd ein Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn helpu i’ch arwain drwy’r camau nesaf o gwblhau’r gwaith papur er mwyn i chi gofrestru’r farwolaeth.
Bydd ein Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn cysylltu â chi dros y ffôn oni bai eich bod wedi ein ffonio, i roi arweiniad ac ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Os hoffech gysylltu â'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth, maent ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am - 4pm. Gallwch eu ffonio ar 01443 802406 neu anfon e-bost at ABB_Morthub@wales.nhs.uk.
Rhowch eich enw, manylion cyswllt ac enw'r ymadawedig. Os na chaiff y ffôn ei ateb gallwch adael neges, a bydd rhywun yn eich ffonio'n ôl cyn gynted â phosibl.
Efallai y byddwch am gysylltu a phenodi trefnydd angladdau cyn casglu’r Dystysgrif Achos Marwolaeth. Bydd y trefnydd angladdau angen y dystysgrif Claddu neu amlosgi (Ffurflen Werdd) a gyhoeddir gan swyddfa'r Gofrestrfa.
Mae’n bosibl y bydd cymorth ariannol tuag at gost yr angladd ar gael os ydych chi neu’ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm, Credyd Teulu neu Fudd-dal Tai. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/funeral-payments neu ffoniwch 0800 731 0469.
Os bydd amlosgiad yn cael ei gynllunio bydd y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn trefnu i feddyg lofnodi'r ffurflenni amlosgi i fynd â nhw at y Trefnwr Angladdau.
Mae’r gwasanaeth Archwiliwr Meddygol wedi’i gyflwyno yng Nghymru a Lloegr i gynyddu dealltwriaeth a thawelwch meddwl i deuluoedd, yn ogystal â gwella dysgu a diogelwch cleifion yn yr ysbyty trwy ddarparu adolygiad o ofal.
Mae Archwilwyr Meddygol yn uwch feddygon annibynnol nad ydynt wedi bod yn ymwneud â gofal y person a fu farw. Gall siarad ag Archwiliwr Meddygol eich helpu i ddeall achos ac amgylchiadau marwolaeth. Mae hefyd yn rhoi cyfle i drafod unrhyw faterion, pryderon neu adborth ynghylch gofal sydd gennych gyda thîm annibynnol.
Mae'r Archwilwyr Meddygol a'r Swyddogion Archwilwyr Meddygol yn gweithio'n agos ochr yn ochr â'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth a fydd yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.