Mae'n Rhaglen Frechiadau’r Hydref nawr wedi cychwyn ar draws Gwent, gan ddefnyddio cyfuniad o ganolfannau brechu torfol a darparwyr gofal sylfaenol. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r grwpiau sydd fwyaf agored i niwed yn gyntaf, gan gynnwys cartrefi gofal i bobl hŷn, yn ogystal â staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y rhai sy'n gymwys yr Hydref hwn yn cynnwys:
Ceir gwybodaeth lawn am y lleoliadau y bydd pobl yn mynd iddynt i gael eu brechiadau ar eu gwahoddiad. Gofynnwn yn garedig i bobl geisio mynd i’r apwyntiad cyntaf a gynigir iddynt, ac i amddiffyn eu hunain yn gynnar.
Dylir ddod â'r eitemau canlynol i'ch apwyntiad:
Rydym wedi llunio rhestr o Gwestiynau Cyffredin i chi gael golwg arnynt. Fodd bynnag, am unrhyw wybodaeth bellach y bydd ei hangen arnoch efallai, ffoniwch y rhif ffôn a nodir ar eich gwahoddiad.
Ar 30 Medi, bydd ein tîm Brechu Torfol yn gadael Canolfan Casnewydd, gan na fydd y lleoliad ar gael i ni mwyach. Byddwn yn cynnal clinigau yng Nghanolfan Brechu Torfol Casnewydd 7 diwrnod yr wythnos tan y dyddiadau cau. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr Gofal Sylfaenol i sicrhau bod y rhaglen frechu’n dal i gael ei darparu’n ddidrafferth ac yn effeithlon.