Neidio i'r prif gynnwy

Cyfathrebu Gofal Iechyd: Negeseuon testun a llythyrau gan y Bwrdd Iechyd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi comisiynu 'Healthcare Communications' i ddarparu cyfathrebiadau i gleifion, gan ddisodli'r darparwr blaenorol 'DrDoctor'.

Byddwch yn derbyn nodiadau atgoffa apwyntiad a bydd gennych yr opsiwn i dderbyn llythyrau yn ddigidol trwy borth cleifion yn y dyfodol.

Byddwch yn derbyn negeseuon testun oddi wrth: 'ABUHB NHS' yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gallwch hefyd roi gwybod i ni beth yw eich dewis iaith i dderbyn gohebiaeth yn y dyfodol yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

 

Beth allaf ei ddisgwyl?

Nodyn Atgoffa am Apwyntiad: peidiwch byth â cholli apwyntiad arall

Pan fydd eich apwyntiad wedi'i drefnu, byddwch yn derbyn neges destun yn cadarnhau dyddiad, amser a lleoliad eich apwyntiad. Cyn eich apwyntiad byddwch yn derbyn neges destun atgoffa.

Trwy'r neges destun, bydd yn gyfleus i chi rheoli'ch apwyntiad. Gallwch gadarnhau eich presenoldeb, canslo neu aildrefnu apwyntiadau, trwy ymateb i'r neges destun.

Os nad oes gennych ffôn symudol, byddwch yn derbyn cadarnhad o'ch apwyntiad a nodiadau atgoffa apwyntiad trwy alwad ffôn awtomataidd yn uniongyrchol i'ch ffôn llinell dir lle bydd gennych hefyd yr opsiwn i gadarnhau eich presenoldeb, canslo neu aildrefnu'r apwyntiad.

I ymateb i'r neges, rhaid i chi ymateb gyda'r cod 4 digid wrth ymyl yr opsiynau. Er enghraifft, y cod 4 digid nesaf at CADARNHAU'r apwyntiad yw '2751', felly byddech yn ymateb i'r neges gyda 'Cadarnhau 2751'.

I gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddefnyddio apwyntiadau’n effeithiol, rhowch wybod i ni’n brydlon os na allwch fynychu. Mae hyn yn ein galluogi i aildrefnu ar gyfer amser mwy addas a chynnig yr apwyntiad i rywun arall.

Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi trwy neges destun, gellir parhau i dderbyn gwybodaeth apwyntiad trwy lythyr yn unig. Gallwch optio allan o’r system neges destun atgoffa drwy roi gwybod i’n timau archebu pan fyddant yn trefnu eich apwyntiad.

 

Sut ydw i'n gwybod bod y neges a gefais gan y GIG?

Byddwch yn derbyn negeseuon testun oddi wrth: 'ABUHB NHS' neu rif ffôn symudol gyda manylion eich apwyntiad. Bydd pob neges yn cynnwys 'Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan' neu 'ABUHB'.

Ni fyddai'r GIG byth angen taliad nac yn gofyn i chi ddarparu manylion personol trwy ymateb i neges destun.

Os byddwch yn derbyn neges sy'n peri pryder i chi, peidiwch ag ateb na chlicio ar unrhyw ddolenni. Os oes angen i chi wirio apwyntiad, dylech gysylltu â'r rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad. Bydd y neges a gewch yn gofyn i chi ymateb i gadarnhau, ail-archebu neu drefnu eich apwyntiad.

Hoffem eich sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu’n ddiogel ac NA FYDD yn cael ei defnyddio at ddibenion marchnata.

Mae’r daflen Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau yn esbonio pam mae gwybodaeth yn cael ei chasglu gan GIG Cymru a sut y gellir ei defnyddio.

 

Llythyrau Cleifion

Am y tro, byddwch yn parhau i dderbyn eich llythyrau yn yr un modd – fodd bynnag, yn ddiweddarach eleni, cewch yr opsiwn i dderbyn llythyrau yn ddigidol, os dewiswch wneud hynny.

Pan fyddwch yn derbyn y neges destun gyda'ch llythyr apwyntiad, byddwch yn cael cyfle i gofrestru ar gyfer y Porth Cleifion.

Gallwch hefyd nodi eich dewis ar gyfer llythyrau digidol trwy gysylltu â'n tîm archebu (bydd y manylion cyswllt ar eich llythyr), neu hysbysu'r dderbynfa wrth gyrraedd ar gyfer eich apwyntiad.

Os byddwch yn dewis derbyn llythyrau yn ddigidol, byddwch yn derbyn eich llythyr trwy neges destun gyda dolen ddiogel i'r Porth Cleifion.

Bydd llythyrau digidol yn eich cyrraedd yn gyflymach ac yn lleihau ein heffaith amgylcheddol trwy leihau allyriadau papur a chludiant sy'n gysylltiedig â dosbarthu post traddodiadol.

Gall unigolion â namau gweledol a gwybyddol gyrchu a deall llythyrau digidol yn ddiymdrech gyda'r opsiwn o newid maint ffont, arddangosiadau lliw a dewisiadau iaith sy'n addas i'ch anghenion.

Beth fydd y manteision os byddaf yn defnyddio'r Porth Cleifion?

Trwy ddefnyddio'r Porth Cleifion, byddwch yn gallu cyrchu'ch holl ohebiaeth trwy un hwb canolog, diogel.

 

  • Byddwch yn gallu cyrchu holl wybodaeth eich apwyntiad o gledr eich llaw, unrhyw bryd ac unrhyw le!

  • Gallwch chi gadarnhau'ch apwyntiad yn hawdd, ei aildrefnu neu ei ganslo gydag un tap ar y botwm.

  • Gallwch ychwanegu eich apwyntiad yn uniongyrchol at eich calendr digidol.

  • Gellir cyrchu'r Porth Cleifion o ffôn clyfar, llechen neu fwrdd gwaith.

  • Bydd y Porth Cleifion ar gael i chi yn fuan, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch gofrestru.

 

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Sicrhewch fod gennym eich rhif ffôn symudol a'ch cyfeiriad e-bost diweddaraf ar ein cofnodion fel y gallwn gysylltu â chi. Gellir diweddaru'r rhain hefyd wrth ddesg y dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Atgyfeirio ac Archebu a all ddiweddaru eich manylion dros y ffôn ar 01495 765055.

 

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau a ofynnir yn aml