Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith y Lluoedd Arfog

Mae Rhwydwaith y Lluoedd Arfog yn grŵp anghyfyngedig sy’n agored i holl weithwyr BIPAB ac sy’n cynnwys cyfuniad o gyn-filwyr y lluoedd arfog, rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn y lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, cadetiaid gwirfoddol, a’r rhai sydd ag aelod teulu yn arfer gwasanaethu neu’n parhau i wasanaethu.

Mae’r rhwydwaith hon yn darparu lle i Gymuned y Lluoedd Arfog ddod ynghyd a rhannu syniadau ac arferion gorau, gan fod yn gefn i’w gilydd er mwyn gwneud y bwrdd iechyd yn lle gwych i weithio.

 

Diben Rhwydwaith y Lluoedd Arfog

Nod y rhwydwaith yw:

  • darparu lle i holl gydweithwyr a chynghreiriaid BIPAB ddod ynghyd fel rhwydwaith gymorth i’w gilydd.
  • bod yn ‘ffrind beirniadol’ i BIPAB, er mwyn helpu i nodi problemau a rhwystrau o ran polisïau, gweithdrefnau ac arferion BIPAB.
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth a dysg sy’n benodol i’r Lluoedd Arfog ar draws BIPAB.
  • bod yn esiamplau gweladwy da ar draws BIPAB.

 

I gyflawni ein nodau o:

  • Wella ein harferion gweithio i bobl oedd yn arfer gwasanaethu, sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu’n deulu agos i aelod o’r Lluoedd Arfog.
  • Cydnabod y problemau penodol sydd gan aelodau o’r Lluoedd Arfog o bosib o ran profiadau blaenorol, ymfyddino, gofynion i ymgymryd â hyfforddiant milwrol ychwanegol, etc.
  • Gwella ein proses o recriwtio pobl sy’n gadael y lluoedd arfog a’u teuluoedd agos.
  • Sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i gleifion yn deg, gan ystyried yr effaith mae eu gwasanaeth wedi’i chael ar eu hiechyd a llesiant o bosib, a rhoi ystyriaeth ddyledus i hyn.

 

Mae holl luniau y Lluoedd Arfog wedi dod o https://www.defenceimagery.mod.uk/