Neidio i'r prif gynnwy

Atwrneiaeth Arhosol

Gall pobl hŷn gymryd camau heddiw i amddiffyn eu dyfodol

Mae'n bwysig iawn bod gan bobl hŷn rywun y gallant ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau am iechyd a chyllid os na allant wneud y penderfyniadau hyn drostynt eu hunain mwyach.

Gall rhoi’r trefniadau hyn ar waith gydag Atwrneiaeth Arhosol (LPA) roi tawelwch meddwl a helpu pobl i gadw rheolaeth.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu canllaw hawdd i Atwrneiaeth Arhosol (LPA).

Bwriad y canllaw yw helpu pobl ledled Cymru a Lloegr i ddeall yn well pa mor bwysig yw cael LPA i reoli eu harian, eu hiechyd a’u lles. Mae hefyd yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin am LPA a gall helpu i sicrhau bod penderfyniadau yn y dyfodol mewn perthynas â chyllid, iechyd a lles yn cael eu diogelu.

Lawrlwythwch y dogfennau canlynol: