Mae’r dudalen we hon yn esbonio sut rydym yn rheoli ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a’r modd y disgwyliwn i bobl eu defnyddio
Mae gyda ni sianeli ar wahanol blatfformau i’n helpu i gyfathrebu’r gwaith rydym yn ei wneud.
Rydym yn defnyddio meddalwedd i ymateb i ac i nodi cwestiynau, themâu a barn ar ein polisïau a’n gwaith.
Rydym am i’n cyfrifon fod yn llefydd diogel a pharchus i bawb. Rydym yn eich annog i bostio adborth, cwestiynau, eich straeon a’ch profiadau.
Rydym hefyd yn gofyn ichi ddilyn rhai rheolau syml:
Byddwn yn blocio ac yn riportio unrhyw ddefnyddwyr lle mae eu postiadau:
Byddwn yn cadw manylion postiadau cyhoeddus sy’n torri ein rheolau a bydd y cyfrif yn cael ei flocio.
Sut rydym yn rheoli ein cyfrifon
Caiff ein sianeli cyfryngau cymdeithasol eu cynnal gan staff anghlinigol y Bwrdd Iechyd. Caiff y gweithwyr hyn eu rhwymo gan ein polisïau a’n gweithdrefnau, yn cynnwys ‘Polisi Cyfryngau Cymdeithasol Cymru Gyfan GIG Cymru’ [dolen: https://phw.nhs.wales/about-us/policies-and-procedures/policies-and-procedures-documents/corporate-governance-communications-and-finance-policies/social-media-policy/].
Rydym yn monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener (ond nid ar wyliau cyhoeddus).
Byddwn wastad yn ceisio ateb eich cwestiynau, ond gyda chynifer o negeseuon, efallai na fydd modd i ni ymateb i bob ymholiad.
Lle na fyddwn yn gallu ateb cwestiynau trwy’r cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn eu cyfeirio at y man cywir lle bo’n briodol.
Rydym yn ceisio’n gorau i roi’r wybodaeth gywir i chi. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn ceisio cywiro’r sefyllfa a chyflwyno’r wybodaeth gywir cyn gynted â phosibl.
Nid yw ein staff cyfryngau cymdeithasol wedi cael hyfforddiant meddygol ac ni allant gynnig cyngor meddygol ar y cyfryngau cymdeithasol. Os byddwch angen cyngor meddygol, siaradwch â’ch meddygfa leol, edrychwch ar https://111.wales.nhs.uk neu ffoniwch 111.
Rhowch wybod os credwch ein bod wedi gwneud camgymeriad neu os ydych yn gweld rhywbeth y credwch ei fod yn amhriodol neu eich bod yn poeni amdano.
Rydym yn cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ac i ddiweddaru neu newid yr amodau hyn ar unrhyw adeg.
Caiff y cynnwys uchod ei lywio gan reolau tŷ Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r cyfryngau cymdeithasol https://www.llyw.cymru/defnyddio-cyfryngau-cymdeithasol-llywodraeth-cymru-rheolaur-ty