Mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn grŵp o arbenigwyr yn y DU sy’n cynghori’r Llywodraeth ar frechlynnau ac imiwneiddio. Ym mis Medi 2023, argymhellodd y JCVI ddatblygu rhaglen imiwneiddio RSV ar gyfer babanod ac oedolion hŷn.
Mae’r rhaglen RSV yn rhaglen newydd a fydd yn amddiffyn miloedd o fabanod a phobl hŷn rhag salwch difrifol bob gaeaf, gan gadw mwy o bobl allan o’r ysbyty a rhag bod angen gweld meddyg teulu.
Gallai’r brechiad arbed 1,000 o blant ifanc bob blwyddyn yng Nghymru rhag mynd i’r ysbyty a gallai achub bywydau dros 100 o bobl hŷn bob blwyddyn.
Bellach mae brechlynnau diogel ac effeithiol ar gael ac argymhellwyd y dylid cynllunio rhaglen imiwneiddio RSV ar draws holl wledydd y DU.
Mae RSV yn feirws cyffredin sy'n lledaenu yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Bydd bron pob plentyn wedi dal RSV erbyn iddo fod yn ddwy oed. Mae'n gyffredin bod plant hŷn ac oedolion yn dal y feirws eto.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy'n mynd yn sâl o haint RSV fynd i'r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Gall achosi marwolaeth hyd yn oed.
Mae salwch RSV yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG yn ystod y gaeaf. Mae nifer y bobl y mae angen gofal ysbyty arnynt oherwydd RSV wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd diwethaf.
Cyn i’r rhaglen frechu rhag RSV ddechrau yn y DU, roedd tua 33,500 o blant o dan bump oed yn mynd i'r ysbyty oherwydd y feirws bob blwyddyn. Credir bod RSV yn achosi 5,000 i 7,500 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn yn ystod y gaeaf yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o'r marwolaethau hyn ymhlith oedolion dros 75 oed.
Gellir dod o hyd i restr o Glinigau Brechu Cymunedol yma: Clinigau Brechu Dros Dro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Rydyn ni’n bwriadu dechrau darparu’r brechlyn ym mis Medi, i gael rhagor o wybodaeth, ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth am y brechlyn firws syncytiol anadlol (RSV) - Iechyd Cyhoeddus Cymru (ngs.cymru)