Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau Ffliw 2026/27

 

Mae brechiad ffliw yn cael ei argymell ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl o gymhlethdodau difrifol os ydynt yn cael y ffliw. Ar gyfer oedolion mae hyn yn cynnwys pawb 65 oed a throsodd, menywod beichiog, a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor penodol. Gall y ffliw fod yn salwch difrifol yn y bobl hyn a’r brechlyn sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, cliciwch yma: Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)

Bydd pob person cymwys yn derbyn gwahoddiad ar gyfer eu brechlyn ffliw o 1 Hydref 2026, fel y nodir yn y tabl isod:

Cohort Cymwys Ble fyddwch chi'n cael Brechlyn Ffliw Ymholiadau
Plant dwy neu dair oed (oed ar 31 Awst 2026) Meddygfa’r teulu (Sylwch: mewn rhai ardaloedd, cynigir y brechlyn i blant tair oed yn y feithrinfa), Canolfan Frechu Cwmbrân (apwyntiadau cerdded i mewn ar gael) Meddygfa’r teulu
Plant ysgol gynradd ac uwchradd (hyd at Flwyddyn 11) Ysgol gynradd ac uwchradd, Clinigau Brechu Cymunedol (apwyntiadau cerdded i mewn ar gael) Tîm Imiwneiddio Ysgol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Plant 6 mis i dan 18 oed gyda chyflwr iechyd tymor hir Meddygfa’r teulu (Sylwch: bydd plant oed ysgol gynradd ac uwchradd yn cael eu brechlyn ffliw yn yr ysgol) Meddygfa’r teulu
Merched beichiog Meddygfa’r teulu, rhai fferyllfeydd cymunedol neu, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gan eu bydwraig Meddygfa’r teulu / Bydwraig
Cyflyrau iechyd tymor hir (oedolion) Meddygfa’r teulu/ Fferyllfa Gymeunedol Meddygfa’r teulu
Pobl 65 oed neu’n hŷn Meddygfa’r teulu Meddygfa’r teulu
Gofalwyr di-dâl Meddygfa’r teulu/ Fferyllfa Gymeunedol Meddygfa’r teulu
Gofalwyr cartref Fferyllfa gymunedol (neu mewn rhai ardaloedd, trefniadau eraill) Fferyllfa gymunedol
Staff cartrefi gofal Fferyllfa gymunedol, neu pan fydd y Gwasanaeth Brechu yn ymweld â’r cartref gofal Rheolwr y Cartref Gofal
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol Trwy’r cyflogwr neu Glinigau Brechu Cymunedol (Rhaid dangos ID staff) (apwyntiadau cerdded i mewn ar gael) Cyflogwr

Pobl sy’n gweithio gyda ieir (gweithwyr dofednod) sydd mewn perygl uchel.

Pobl sy’n gweithio gyda gwartheg a moch (gweithwyr da byw) sydd mewn perygl uchel.

Fferyllfa leol (os ydych yn 18 oed neu’n hŷn)

Gan eich meddygfa deulu (os ydych yn 16 neu 17 oed)

 

Meddygfa’r teulu / Fferyllfa

Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi yn nes ymlaen o hyd.

Cysylltwch â chanolfan archebu’r Gwasanaeth Brechu ar 0300 303 1373 neu cerddwch i mewn i’n Canolfan Frechu sydd wedi’i lleoli yn:
Canolfan Siopa, 19 - 25 The Parade, Cwmbrân NP44 1PB os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.

 

Eleni, bydd y rhan fwyaf o oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn ffliw o 1 Medi.

Ni ddylai pobl sy’n 65 oed neu’n hŷn a/neu sy’n perthyn i grŵp risg clinigol sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw gael eu brechu tan 1 Hydref. Bydd hyn yn cynnig yr amddiffyniad gorau yn erbyn y ffliw drwy gydol y gaeaf.

Ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl o gymhlethdodau difrifol os ydynt yn cael ffliw. Ar gyfer oedolion mae hyn yn cynnwys pawb 65 oed a throsodd, menywod beichiog, a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor penodol. Gall y ffliw fod yn salwch difrifol yn y bobl hyn a’r brechlyn sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau. Pam fod yn rhaid i mi aros tan fis Hydref am fy brechlyn ffliw? Eleni bydd y rhan fwyaf o oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn ffliw o ddechrau mis Hydref, a allai fod ychydig yn hwyrach nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn oherwydd bod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf yn dangos bod amddiffyniad rhag y brechlyn ffliw yn lleihau dros amser mewn oedolion. Felly mae'n well cael y brechlyn yn nes at yr adeg pan fydd y ffliw fel arfer yn cylchredeg. Pryd ddylai merched beichiog gael eu brechu? Dylai menywod beichiog gael y brechlyn o fis Medi. Mae hyn oherwydd bod yr amddiffyniad rhag y brechlyn yn cael ei drosglwyddo drwy'r brych i'r babi, gan roi amddiffyniad i'r babi am yr ychydig fisoedd cyntaf o fywyd pan fydd yn arbennig o agored i'r ffliw. Felly ni ddylai menywod beichiog oedi rhag cael eu brechu, yn enwedig y rhai sy'n feichiog iawn, gan fod angen diogelu babanod a enir yn ystod tymor y ffliw rhag y ffliw yn ogystal â'r fenyw feichiog ei hun.

Bydd brechu plant sy'n cael cynnig brechlyn ffliw gan y GIG hefyd yn dechrau o fis Medi oherwydd nad yw eu hamddiffyniad rhag y brechlyn yn lleihau mor gyflym ag y mae mewn oedolion.

Am ragor o wybodaeth am y chwistrell trwyn ffliw i blant 2–3 oed a phlant oed ysgol, ewch i: Ffliw Trwynol Plant - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

Mae brechlynnau ffliw fel arfer ar gael ym mis Medi a dechrau mis Hydref bob blwyddyn. Yn ddelfrydol, dylid rhoi'r brechlyn ffliw cyn i'r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi yn nes ymlaen o hyd. Mae'r amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl i chi gael y brechlyn ffliw.

Os ydych mewn grŵp sydd â risg uwch o fynd yn ddifrifol wael os byddwch yn dal y ffliw, dylech gael brechiad ffliw bob blwyddyn.