Neidio i'r prif gynnwy

Gartref yn Gyntaf: Cynllunio Rhyddhad Claf o'r Ysbyty

Canllaw i gleifion, teuluoedd a gofalwyr

Yn ystod amser claf yn yr ysbyty gyda ni, ein nod yw eu helpu i wella cyn gynted â phosibl fel y gellir dychwelyd adref.

Er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen, byddwn yn dechrau trafod rhyddhad claf cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd yr ysbyty.

Bydd aelod o’r tîm sy’n gofalu amdano'r claf yn gofyn iddynt a’u teulu (os hoffai'r claf) am amgylchiadau / amgylchedd eu cartref a’r cymorth yr ydynt eisoes yn ei dderbyn neu y gallai fod ei angen arnynt pan fyddant yn cael eich rhyddhau. Mae'n bwysig bod y claf yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl am unrhyw beth a allai wneud eu dychwelyd adref yn anodd. Unwaith y bydd meddyg wedi dweud bod claf yn ddigon iach i gael eu rhyddhau, nid ysbyty yw'r lle gorau iddynt wella. Rydym am gefnogi'r claf i fynd adref cyn gynted ag y byddant yn ffit ac yn ddigon iach i wneud hynny, er mwyn eu hamddiffyn rhag unrhyw niwed.

Drwy helpu'r claf i ddychwelyd adref, gallwn hefyd sicrhau ein bod yn gallu gofalu am ein cleifion mwyaf sâl.

 

Cefnogi Adferiad Claf


Gyda chymorth gan ein staff a pherthnasau, mae yna ychydig o bethau y gall cleifion eu gwneud i helpu i gyflymu eu hadferiad a fynd adref cyn gynted â phosibl.

 

 

Dewch o hyd i gymorth a chefnogaeth ar ôl i chi gael eich rhyddhau o'r ysbyty gan y sefydliadau canlynol: