Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i awgrymiadau da gan ein staff arbenigol, sy’n canolbwyntio ar adfer ar ôl salwch. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn eich cefnogi ar eich llwybr i adferiad.
Bydd angen amser ar rai ohonom i wella ar ôl salwch. Mae'n bwysig bod pobl yn garedig iddyn nhw eu hunain ac yn caniatáu i'w cyrff wella ar gyflymder naturiol.
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud gan eich bod yn gwella o salwch neu wedi bod yn yr ysbyty ac efallai eich bod eisoes wedi cael cyngor penodol ar sut i reoli eich adferiad, ac rydym yn argymell eich bod yn dilyn hynny.
Isod, fe welwch gyfres o daflenni cyngor sydd wedi'u datblygu ar gyfer pawb ac sy’n rhoi arweiniad ar oresgyn yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth wella. Rydym wedi dechrau gyda'r meysydd y mae pobl wedi'u dweud wrthym sy'n peri'r pryder mwyaf iddynt, a byddwn yn ychwanegu mwy o bynciau yn y dyfodol.