Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: abuhb.nhs.wales

Caiff y wefan ei chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Chwyddo'r dudalen hyd at 200% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin- dysgwch sut.
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Darllen rhai dogfennau sydd ar ffurf PDF - dysgwch sut.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  1. Mae rhai tudalennau’n cynnwys cyferbyniad lliwiau gwael 
  2. Mae rhai tudalennau’n cynnwys penawdau nad ydynt mewn trefn resymegol
  3. Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  4. Mae gan rai tudalennau drefn ffocws afresymegol

 

Adborth a Gwybodaeth Gyswllt

Pe hoffech y wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch ag abb.enquiries@wales.nhs.uk i ddechrau, a byddwn yn anfon eich cais ymlaen at y tîm perthnasol, a fydd yn ystyried eich cais cyn eich ateb cyn gynted â phosibl.

 

Rhoi Gwybod am Broblemau Hygyrchedd gyda’r Wefan

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd yn eich barn chi, cysylltwch ag: abb.enquiries@wales.nhs.uk

 

Gweithdrefn Orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda'r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Manylion Technegol am Hygyrchedd y Wefan Hon

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Datganiad Cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod:

 

Diffyg Cydymffurfio â’r Rheoliadau Hygyrchedd

Er ein bod yn gwneud bob ymdrech i fodloni ‘WCAG 2.1 AA’, ar hyn o bryd mae'r materion canlynol yn codi o ran diffyg cydymffurfiaeth:

  1. Mae rhai dewislenni a rhannau o rai tudalennau wedi’u cyflwyno mewn ffordd sy'n ddryslyd wrth ddefnyddio’r wefan drwy Dechnolegau Cynorthwyol.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.1 Enw, Rôl, Gwerth Lefel A
  2. Nid yw rhai testunau’n cyferbynnu ddigon â’r cefndir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1 Cyferbyniad (Lleiafswn) Lefel AA. 
  3. Nid yw penawdau rhai tudalennau wedi’u gosod mewn trefn resymegol, fesul haen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1 Gwybodaeth a Chysylltiadau Lefel A
  4. Nid oes modd defnyddio rhai rhannau ar rai tudalennau yn llawn gyda’r bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1 Bysellfwrdd Lefel A
  5. Mae rhai elfennau wedi’u gosod mewn trefn ffocws afresymegol.  Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1 Trefn Ffocws Lefel A

 

Baich Anghymesur

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth cleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, gwyddom fod rhai adrannau o'n gwefan sydd o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u cynhyrchu ers mis Medi 2018. 

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau’n cydymffurfio, ac yn cynnig manylion cyswllt lle bynnag y bo modd.  Wrth adnewyddu dogfennaeth yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried hygyrchedd digidol.

Yr adrannau dan sylw ar hyn o bryd yw'r adrannau isod (ac maent yn destun newid):

  • Papurau Pwyllgor neu Fwrdd
  • Adroddiadau perfformiad a all gynnwys data ystadegol/adrodd cymhleth
  • Polisïau a Gweithdrefnau a gynhyrchwyd ers mis Medi 2018
  • Cyhoeddiadau wedi’u cysylltu o’n tudalennau Rhyddid Gwybodaeth – gan gynnwys cofnodion datgelu
  • Cyhoeddiadau a all fod wedi'u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018, y bydd angen eu cywiro gan drydydd parti

 

Llywio a Gweld Gwybodaeth

  • Nid oes ffordd o fynd heibio'r cynnwys ailadroddus ym mhennawd y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'ymlaen i'r prif gynnwys').
  • Nid oes modd newid gogwydd y ddyfais bob amser, o lorweddol i fertigol, heb ei wneud yn anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid oes modd i ddefnyddwyr newid maint y testun heb achosi i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.

 

Cynnwys Nad ydynt o fewn Cwmpas Rheoliadau Hygyrchedd

Dogfennau PDF a Dogfennau Eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth ynghylch sut all defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, a thaflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word. Rydym yn bwriadu naill ai drwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch neu ffurflenni ar-lein yn eu lle erbyn dechrau 2023.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw PDFs neu unrhyw ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft, Papurau Pwyllgor a Bwrdd, polisïau’r Bwrdd Iechyd a dogfennau gweithdrefnau neu ddogfennau statudol, fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud bob ymdrech i wneud unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

Rydym weithiau’n cyhoeddi PDFs sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau/llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau wedi’u hysgrifennu â llaw’, er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - mae'r rhain y tu hwnt i'r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu trwsio.

 

Fideos Byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu sgrindeitlau at glipiau sain byw na ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi'u heithrio rhag cwrdd â’r rheoliadau hygyrchedd.  Fodd bynnag, byddwn bob amser yn ymdrechu i gynnig fersiynau ag isdeitlau o fideos wedi’u recordio ymlaen llaw a gynhyrchir.

 

Paratoi’r Datganiad Hygyrchedd Hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Mehefin 2023. Caiff ei adolygu yn ystod neu cyn mis Mehefin 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ar 5 Mehefin 2023 gan ddefnyddio cyfuniad o Wave, Axe, Lighthouse a phrofi â llaw.

Os ydych yn profi unrhyw broblemau hygyrchedd ar y safle hwn, neu os oes gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni drwy abb.enquiries@wales.nhs.uk.