Wal Diolch

Mae geiriau diolch yn golygu’r byd i ni a’n staff, felly mae’r rhan hon o’n gwefan wedi’i chysegru i ddathlu’r holl negeseuon gwerthfawrogiad gwych a dderbyniwn i aelodau staff a thimau ar draws y Bwrdd Iechyd bob dydd.
Text

Would you like to share some positive feedback about our staff or tell us about a good experience you have had recently?  If so, please complete the following form and we will ensure your feedback is passed on: Thanking our Staff - Aneurin Bevan University Health Board

Horizontal Rule

Container
Image
Text

Diolch - Tîm Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Fore dydd Iau diwethaf, deffrais yn ystod y nos gan feddwl fy mod wedi cael strôc, gan fod ochr dde fy wyneb wedi llithro'n eithaf amlwg.

O'r eiliad y cyrhaeddais yr Adran Frys yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, roedd y driniaeth a gefais yn rhagorol. O'r triaj, y sganiau a'r nyrsys strôc i staff yr Uned Asesu a Thrin yr Un Diwrnod (SDEC), cefais sicrwydd drwy gydol fy arhosiad a chefais fy nhrin gyda'r parch, y caredigrwydd a'r gofal mwyaf.

Er ei bod yn ddiwrnod hir, teimlais fod pob aelod o staff y deuthum i gysylltiad â nhw, o'r merched te i'r meddygon, y nyrsys a'r ymgynghorwyr, wedi cyfrannu at y gofal eithriadol a gefais.

Diolch yn fawr i bawb a fu'n rhan o'm gofal.

Claudia Hodges

Horizontal Rule

Container
Text

Hoffwn ofyn yn garedig a allech drosglwyddo fy nghlod a'm diolch diffuant i staff D7 West a oedd ar ddyletswydd ar 6 a 7 Hydref ac yn gofalu am gleifion ym Mae B.

Gwnaeth y nyrsys a'r staff eraill fy arhosiad mor gyfforddus a hawdd ag y gallent. Diolch arbennig i Claire a Sam am eu cellwair parhaus a'u synnwyr digrifwch. Gwnaethant i mi chwerthin ar sawl achlysur a helpasant i godi fy nghalon.

Roedd holl staff y ward yn anhygoel, ar y sifftiau dydd a nos fel ei gilydd.

Parhewch i fod y tîm gwych ydych chi.

Diolch yn fawr.