Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio mewn partneriaeth â Dr Doctor i gynnig gwasanaeth atgoffa ac aildrefnu dros negeseuon testun, e-bost ac ar-lein ar gyfer eich apwyntiadau cleifion allanol.
Cyn eich apwyntiad cewch neges destun a/neu e-bost i'ch atgoffa a gallwch reoli'ch apwyntiad ar-lein. Gallwch ganslo neu aildrefnu apwyntiadau penodol drwy ymateb i'r neges destun, yn y fformat y gofynnir i chi wneud, neu drwy bwyso ar y ddolen a roddir yn y neges/e-bost neu drwy fynd i https://my.drdoctor.co.uk/login .
Bydd cleifion yn cael neges i gadarnhau ar ôl trefnu apwyntiad yn ogystal â dwy neges atgoffa, un 7 diwrnod cyn eu hapwyntiad ac un arall 3 diwrnod cyn yr apwyntiad. Ar gyfer y rhan fwyaf o glinigau, gallwch aildrefnu neu ganslo'ch apwyntiad drwy'r neges a gawsoch.
Bydd pob neges a anfonir yn cynnwys y ddolen i'r porth cleifion lle gallwch weld manylion yr holl apwyntiadau sydd ar y gweill ac unrhyw wybodaeth ynghylch clinig penodol a all fod yn ddefnyddiol i chi.
Bydd pob apwyntiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y lleoliad i sicrhau bod cleifion yn cyrraedd y lle mewn da bryd ar gyfer yr apwyntiad.
Bydd yr holl negeseuon a anfonir drwy Dr Doctor yn cael eu hanfon o'r un rhif ffôn symudol, sef 07860039092. Mae'r holl negeseuon a anfonir o'r rhif hwn yn rhai dilys ac nid ydynt yn sgam.
Sicrhewch fod eich rhif ffôn symudol a'ch cyfeiriad e-bost yn gyfredol ar ein cofnodion fel y gallwn gysylltu â chi. Gallwch ddiweddaru'r rhain drwy'r porth cleifion https://my.drdoctor.co.uk/login neu wrth y dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich apwyntiad. Gallwch hefyd gysylltu â'r ganolfan Atgyfeirio a Threfnu Apwyntiadau a all ddiweddaru'ch manylion dros y ffôn drwy 01495 765055.
Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi drwy neges destun a/neu e-bost, gallwn anfon gwybodaeth ynghylch apwyntiad atoch drwy'r post yn unig. Gallwch optio allan o'r system atgoffa drwy neges destun drwy ddolen y porth cleifion neu drwy roi gwybod i'n tîm archebu wrth iddynt drefnu'ch apwyntiad.
Byddwn yn treialu swyddogaeth newydd drwy Dr Doctor a fydd yn caniatáu i'n cleifion ymateb yn uniongyrchol i negeseuon a anfonwn ynglŷn â'u hapwyntiadau. Bydd cleifion sy'n derbyn y negeseuon hyn yn cael eu cyfeirio at ddolen, a fydd yn caniatáu iddynt weld y neges lawn ac ymateb ar unwaith i aelod o'r tîm archebu. Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwn o fudd mawr i ni a'n cleifion. Sylwer - Daw'r negeseuon hyn o'r un rhif â holl gyfathrebiadau eraill Dr Doctor ar 07860039092 ac nid ydynt yn sbam.
Yn ddiweddar, dechreuasom ddefnyddio gwasanaeth atgoffa drwy neges destun Dr Doctor ar gyfer pob math o apwyntiadau, nid ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn unig. Rydym bellach yn anfon negeseuon atgoffa ar gyfer ymgynghoriadau dros y ffôn a fideo hefyd. Bydd pob neges yn ymddangos ar yr un fformat ond bydd yn cynnwys disgrifiad clir fel eich bod chi'n ymwybodol pa fath o apwyntiad sydd wedi'i drefnu ar eich cyfer chi. Ar gyfer apwyntiadau fideo, bydd rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gael mynediad at eich ymgynghoriad ar-lein ar gael ar y porth cleifion. Am ragor o wybodaeth ynghylch apwyntiadau fideo, ewch i https://abuhb.nhs.wales/hospitals/patient-information-leaflets/attend-anywhere-video-clinics/
Oherwydd pandemig Covid-19, mae amseroedd aros ein rhestrau aros wedi cynyddu. Mewn ymgais i glirio ein rhestrau aros, rydym wedi bod yn defnyddio Dr Doctor i sicrhau bod pawb sydd ar ein rhestrau yn dal i fod angen apwyntiad gyda ni. Rydym wedi dechrau anfon negeseuon testun ar draws nifer o wasanaethau gwahanol i gleifion yn gofyn iddynt a ydynt yn dal i fod angen yr apwyntiad y cawsant eu hatgyfeirio ar ei gyfer. Gofynnwn i chi ateb y negeseuon hyn os nad oes angen yr apwyntiad arnoch bellach, bydd hyn yn golygu y bydd pobl sydd mewn angen taer o'u hapwyntiad yn cael eu gweld yn gynt. Bydd yr holl negeseuon dilysu hefyd yn cael eu hanfon o 07860039092.