Neidio i'r prif gynnwy

Cael eich Brechiad Atgyfnerthu'r Hydref

Mae'n Rhaglen Frechiadau’r Hydref nawr wedi cychwyn ar draws Gwent, gan ddefnyddio cyfuniad o ganolfannau brechu torfol a darparwyr gofal sylfaenol. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r grwpiau sydd fwyaf agored i niwed yn gyntaf, gan gynnwys cartrefi gofal i bobl hŷn, yn ogystal â staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Pwy sy’n gymwys?

Bydd y rhai sy'n gymwys yr Hydref hwn yn cynnwys:

  • Preswylwyr mewn cartref gofal ar gyfer oedolion a staff hŷn sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pob oedolyn 50 oed a throsodd
  • Pobl rhwng pump a 49 oed mewn grŵp risg clinigol
  • Pobl rhwng pump a 49 oed sy'n gysylltiadau cartref trigolion imiwnoataliedig
  • Gofalwyr rhwng 16 a 49 oed 

Dros yr wythnosau i ddod, bydd y rheiny sy’n gymwys yn derbyn cyfathrebiad i’w gwahodd am Frechiad Atgyfnerthu Covid-19 yr Hydref drwy lythyr, galwad ffôn neu neges destun. Sicrhewch fod gan eich Meddyg Teulu eich manylion cyswllt diweddaraf.

Ceir gwybodaeth lawn am y lleoliadau y bydd pobl yn mynd iddynt i gael eu brechiadau ar eu gwahoddiad. Gofynnwn yn garedig i bobl geisio mynd i’r apwyntiad cyntaf a gynigir iddynt, ac i amddiffyn eu hunain yn gynnar.

Dylir ddod â'r eitemau canlynol i'ch apwyntiad:

  • Llythyr eich apwyntiad (os cawsoch wahoddiad drwy lythyr)
  • Cerdyn adnabod, megis eich pasbort, trwydded yrru neu bil cyfleustodau yn eich enw
  • Os ydych yn weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol, tystiolaeth o gyflogaeth, fel cerdyn adnabod neu lythyr gan eich cyflogwr
  • Gwisgwch ddillad sy'n ein galluogi i weld brig eich braich yn hawdd
  • Eich cerdyn brechu, os oes gennych un.

Rydym wedi llunio rhestr o Gwestiynau Cyffredin i chi gael golwg arnynt. Fodd bynnag, am unrhyw wybodaeth bellach y bydd ei hangen arnoch efallai, ffoniwch y rhif ffôn a nodir ar eich gwahoddiad.


Yn byw yn Ngasnewydd?

Ar 30 Medi, bydd ein tîm Brechu Torfol yn gadael Canolfan Casnewydd, gan na fydd y lleoliad ar gael i ni mwyach. Byddwn yn cynnal clinigau yng Nghanolfan Brechu Torfol Casnewydd 7 diwrnod yr wythnos tan y dyddiadau cau. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr Gofal Sylfaenol i sicrhau bod y rhaglen frechu’n dal i gael ei darparu’n ddidrafferth ac yn effeithlon.


Heb dderbyn dos cyntaf, ail neu frechiad atgyfnerthu?