Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cydnabod bod gan bawb yr hawl i wybod sut mae gwasanaethau cyhoeddus fel GIG Cymru yn cael eu trefnu a'u rhedeg a faint maen nhw'n ei gostio. Mae gennych hawl i wybod pa wasanaethau sy'n cael eu darparu, y targedau sy'n cael eu gosod, safonau'r gwasanaethau a ddisgwylir a'r canlyniadau a gyflawnir.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael mynediad at gofnodion a gwybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus. (nid gwybodaeth bersonol fel cofnodion meddygol).

Gellir darparu gwybodaeth i unrhyw un sy'n gofyn amdani cyn belled â'i bod yn addas i'r cyhoedd ei gweld. Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn ystyried pwy sy'n gofyn am y wybodaeth na pham maen nhw ei eisiau.

Gall aelodau'r cyhoedd ofyn am unrhyw wybodaeth y maen nhw'n meddwl y gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei chadw, er y gallai rhywfaint o wybodaeth gael ei heithrio. Er enghraifft, ni fyddem yn datgelu manylion personol am rywun arall.

Rhaid gwneud ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig, er enghraifft mewn llythyr neu e-bost, gan ddarparu'ch enw a chyfeiriad post neu e-bost i alluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ymateb. Cyflwynwch bob Cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth i FOI.ABB@wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at Ryddid Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Pencadlys, Ysbyty St Cadoc, Lodge Road, Caerllion, NP18 3XQ.

Fodd bynnag, efallai y bydd y wybodaeth sydd ei hangen arnoch eisoes ar gael ar y wefan hon. Gweler ein tudalen Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth gan gynnwys ein Log Datgelu, sy'n cynnwys manylion ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a atebwyd yn flaenorol.