Neidio i'r prif gynnwy

Cymrodoriaeth Ymddeol GIG Gwent

Mae Cymrodoriaeth Ymddeol GIG Gwent wedi cael ei sefydlu ers rhai blynyddoedd ac mae'n rhan o Gymrodoriaeth Ymddeol y GIG sydd â dros 200 o ganghennau ledled y DU.

Nod y Gymrodoriaeth yw:

  • Darparu cyfeillgarwch a chymrodoriaeth i bawb sydd wedi ymddeoli o’r GIG yn ardal Gwent
  • Darparu rôl sy’n ymwneud â lles a gofal i'w haelodau
  • Darparu awyrgylch cymdeithasol a chyfeillgar yn ystod eu holl weithgareddau
  • Rhoi cyfle i holl aelodau'r GIG gyfarfod mewn cymrodoriaeth ag ymddeolwyr eraill a chyn-gydweithwyr

 

Mae'r Aelodaeth yn agored i:

  • berson sydd wedi ymddeol, yn gymwys i ymddeol neu a fydd yn ymddeol yn fuan o gyflogaeth gyda'r GIG
  • person sydd wedi ymddeol, yn gymwys i ymddeol neu a fydd yn ymddeol yn fuan o gyflogaeth gyda sefydliad gwasanaeth iechyd cysylltiedig neu broffesiwn gofalu ond a gafodd ei gyflogi gyda chontractwr preifat
  • person sydd wedi ymddeol, sy’n gymwys i ymddeol neu a fydd yn ymddeol yn fuan ac sydd wedi gweithio gyda'r GIG yn ystod peth amser o'u bywyd gwaith
  • Priod neu bartner person sy'n gymwys i gael aelodaeth
  • Personau eraill y gall Pwyllgor y Gangen am resymau arbennig benderfynu eu derbyn yn aelod

 

Swyddogaethau'r Gymrodoriaeth:

  • darparu addysg a gweithgareddau cymdeithasol
  • cefnogi ac ymweld ag aelodau yn ystod cyfnodau o unigrwydd, caledi a salwch
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau cenedlaethol a rhanbarthol
  • Cronfa Llesiannol Genedlaethol

 

Mae'r Gymrodoriaeth yn mwynhau:

  • Cyfarfodydd misol ar y trydydd dydd Llun o bob mis (ac eithrio mis Awst) am 2pm yn Green Meadow Golf & Country Club, Heol Treherbert, Croesyceiliog

 

Mae'r cyfarfodydd misol yn cynnwys:

  • Busnes y Gymrodoriaeth
  • Siaradwr ar bynciau diddorol
  • Lluniaeth
  • Rafflau. Tabl gwerthu a chyfnewidfeydd llyfrau

 

Yn ogystal, mae yna:

  • Nifer o deithiau bob blwyddyn sy'n cynnwys teithiau i’r theatr
  • Cinio Nadolig
  • Buddion aelodaeth
  • Cwis blynyddol
  • Cynhadledd flynyddol/penwythnos gwyliau
  • Cyfleoedd i ymuno mewn gweithgareddau grŵp megis teithiau cerdded yng nghefn gwlad, gemau sgitls a chwisiau gyda Grwpiau Cymrodoriaeth GIG gerllaw

 

Y ffi i ymuno â Chymrodoriaeth Ymddeol y GIG y flwyddyn yw £35.00, sy'n daladwy o fis Mawrth bob blwyddyn. Gall darpar aelodau a hoffai ymuno dalu £3.00 am hyd at ddau gyfarfod cyn penderfynu ymuno.  Gall partner neu briod ymuno am yr un ffi y flwyddyn.
 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Lynda Evans – Cadeirydd ar 01633 420668

Ann Hyde — Ysgrifennydd Aelodaeth — 01633 895127