Neidio i'r prif gynnwy

Y Frech Goch

Chwefror 2024

Yn dilyn cynnydd yn y Frech Goch a adroddwyd yn ddiweddar yn Llundain a ledled Lloegr, mae’r Athro Tracy Dasziewicz, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent, am atgoffa rhieni a gwarcheidwaid ar draws cymunedau yng Ngwent am bwysigrwydd brechu eu plant rhag yr haint hynod ddifrifol a heintus hwn.

Dywedodd yr Athro Daszkiewicz “Mae’r frech goch yn ddifrifol iawn a gall wneud plant yn sâl iawn ac arwain at gymhlethdodau pellach a allai arwain at orfod mynd i’r ysbyty. Gellir ei atal yn gyfan gwbl trwy'r brechlyn MMR (Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela). Rydym yn galw ar bob rhiant a gwarcheidwad i wneud yn siŵr bod eu plant yn derbyn eu 2 ddos MMR diweddaraf. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny, a gallwch gael y brechlyn MMR am ddim ar y GIG beth bynnag fo'ch oedran.

Daw'r brechlyn MMR mewn 2 ddos, mae'r dos cyntaf ar gael i blant 1 oed a'r ail ddos ar gael yn 3 oed a 4 mis. Rwyf hefyd am dynnu sylw at y ffaith, os ydych chi neu’ch plentyn wedi methu’r naill neu’r llall o’r dosau hyn nad yw’n rhy hwyr i gael brechlyn am ddim.”

Er bod plant yn cael cynnig brechiadau arferol yn erbyn y Frech Goch, gall oedolion sydd heb gael eu brechu hefyd fod mewn perygl o ddal y Frech Goch.

Dywedodd yr Athro Daszkiewicz Gall unrhyw un sydd heb gael eu brechlyn MMR gysylltu â’n tîm Brechu i ofyn am apwyntiad drwy ffonio 0300 303 1373.

"Mae'r frech goch yn salwch difrifol iawn a gellir ei atal trwy frechu. Byddwn yn annog pobl i fynychu am frechlyn os nad ydynt wedi cael un, mae hyn yn bwysig i iechyd unigol ac atal trosglwyddo ar draws ein cymunedau".

Mae'r frech goch fel arfer yn dechrau gyda symptomau tebyg i annwyd, (ee tymheredd uchel, trwyn yn rhedeg neu wedi blocio, tisian, peswch neu lygaid coch, dolur, dyfrllyd) ac yna brech ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Efallai y bydd rhai pobl hefyd yn cael smotiau gwyn bach yn eu ceg.

Os ydych yn amau’r Frech Goch, gofynnwch am apwyntiad brys gyda’r meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111.

I gael rhagor o wybodaeth am y Frech Goch, ewch i: 111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/m/article/measles/