Neidio i'r prif gynnwy

Imiwneiddio HPV

Mae HPV (feirws papiloma dynol) yn firws cyffredin iawn. Bydd mwy na 70% o bobl nad ydynt wedi cael y brechlyn HPV yn dal y firws ar ryw adeg yn eu bywyd. Gall HPV arwain at amrywiaeth o ganserau a gall rhai pobl ddatblygu dafadennau gwenerol hefyd. Mae cael y brechlyn nawr yn eich amddiffyn rhag risgiau yn y dyfodol.

Mae HPV fel arfer yn cael ei ledaenu trwy gyswllt rhywiol agos ac nid yw condomau yn darparu amddiffyniad llwyr rhag HPV.

 

Cynigir y brechlyn HPV i:

  • bechgyn a merched 12 i 13 oed (blwyddyn ysgol 8) yn yr ysgol, yn ystod tymor yr haf, a
  • y rhai a allai fod wedi methu eu brechiad ond sy’n dal yn gymwys hyd at 25 oed (hynny yw, bechgyn a oedd ym mlwyddyn ysgol 8 ar neu ar ôl 1 Medi 2019 a merched a ddaeth yn gymwys i gael y brechlyn ar neu ar ôl 1 Medi 2008.)

 

Beth sydd angen i mi ei wneud i gael y brechlyn hwn i'm plentyn?

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol uwchradd, bydd yn cael ffurflen ganiatâd papur i fynd adref gyda nhw er mwyn i riant/gwarcheidwad ei llofnodi a’i dychwelyd i’r ysgol cyn gynted â phosibl.

Fel arall, gallwch lawrlwytho'r Ffurflen Ganiatâd HPV a'i hargraffu gartref

Gall plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu nad ydynt yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd gael y brechlyn HPV yn eu meddygfa drwy drefnu apwyntiad gyda nyrs y practis.

Newidiadau i’r rhaglen frechu HPV o 1 Medi 2023

Yn ystod y blynyddoedd blaenorol, rhoddwyd y brechiad ar ffurf dau ddos. Mae tystiolaeth bellach yn dangos bod un dos yn rhoi’r un lefel o warchodaeth i bobl ifanc â’r ddau ddos blaenorol.Bydd y newid hwn (o ddau ddos) yn digwydd yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023.

Mae'r brechlyn HPV yn hynod effeithiol o ran amddiffyn rhag canserau a achosir gan HPV, gan gynnwys canser ceg y groth.

I gael rhagor o wybodaeth am HPV gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin ewch i: Brechlyn HPV - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

 

Mae'r brechlyn ar gael drwy wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol a chlinigau HIV i ddynion sy'n 45 oed neu'n iau ac sy'n hoyw neu'n ddeurywiol, neu ddynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (HDDRhD).