Neidio i'r prif gynnwy

Atgyfnerthu'r Hydref 

Diweddariad ar raglen atgyfnerthu Covid-19 hydref 2023

Fel rhan o adolygiad y JCVI (Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio ac Imiwneiddio) o raglen frechu Covid-19, maent wedi cyhoeddi datganiad gyda'u cyngor terfynol ar gymhwysedd ar gyfer rhaglen atgyfnerthu Covid-19 hydref 2023.

Ar gyfer hydref 2023, mae’r JCVI yn argymell cynnig un dos o’r brechlyn Covid-19 i:

  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • Pob oedolyn 65 oed a throsodd
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grŵp risg clinigol, fel diffinnir yn nhablau 3 a 4 ym mhennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pobl rhwng 12 a 64 oed sy’n gysylltiadau cartref, fel diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, pobl â gwrthimiwnedd
  • Pobl 16 i 64 oed sy’n ofalwyr, fel diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

 

Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n cwblhau cynlluniau ar gyfer y gwaith o ddarparu dosau atgyfnerthu'r Hydref ledled Gwent a byddwn yn gwahodd pobl gymwys yn fuan.

Bydd y rhai sy'n gymwys i dderbyn dos atgyfnerthu'r Hydref hwn yn derbyn gwahoddiad drwy lythyr, neges destun neu alwad ffôn, ac ein nod yw gwahodd pawb erbyn diwedd mis Tachwedd.

Peidiwch â phoeni os na fyddwch yn clywed gennym yn syth, bydd apwyntiadau'n cael eu rhoi wrth i ni weithio drwy'r grwpiau cymhwysedd.

Dewch o hyd i'ch canolfan frechu agosaf.

 

Gwybodaeth Brechlyn COVID-19: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/

Daeth y cynnig cyffredinol o frechiad COVID-19 cynradd i ben ar 30 Mehefin.