Mae'r flwyddyn ysgol bron â dod i ben ac mae pawb yn edrych ymlaen at eu cynlluniau ar gyfer gwyliau'r haf! Fodd bynnag, gyda'r newid yn eu trefn arferol a gweithgareddau newydd ar y gweill, nid yw'n syndod y gall rhai plant deimlo'n sâl neu anafu eu hunain yn ystod eu 6 wythnos o wyliau.
Rydym wedi datblygu canllawiau 'Cael Cymorth Dros Wyliau'r Haf' i chi eu rhannu gyda'ch disgyblion a'u teuluoedd i helpu i'w cyfeirio at y gwasanaeth cywir pan fydd ei angen arnynt.
Gall fod yn straen mawr pan fydd eich plentyn yn sâl. Rydym yn gwybod bod llawer iawn o wybodaeth ar gael i chi ar flaenau eich bysedd, ond nid yw dod o hyd i rywbeth sy'n darparu gwybodaeth leol glir a chywir bob amser yn hawdd!
Mae'r adnoddau ar wefan Iachach Gyda’n Gilydd BAB wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth rhwng rhieni a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ar y wefan, gallwch ddod o hyd i wybodaeth glir am anhwylderau cyffredin plentyndod, gan gynnwys cyngor ar ba arwyddion 'fflag goch' i chwilio amdanynt, ble i ofyn am help os oes angen, beth ddylech chi ei wneud i gadw'ch plentyn yn gyffyrddus a pha mor hir y mae symptomau eich plentyn yn debygol o bara.
Mae yna hefyd adran y gall pobl ifanc gael mynediad iddi ar y wefan – gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol dros Wyliau'r Haf ar adeg canlyniadau arholiadau, peidio â bod yn yr ysgol gyda mynediad at gymorth gan athrawon ac i helpu unrhyw un a all fod yn ofalwr i aelodau o'r teulu.
Dewch o hyd i gyngor ac adnoddau Iachach Gyda'n Gilydd BAB yma: Hafan :: Iachach Gyda'n Gilydd (cymru.nhs.uk)