Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd: Ein Dyfodol, Ein Llais: Babanod, Plant a Phobl Ifanc Gwent

Am yr Adroddiad

“Bob blwyddyn, mae Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd yn

cynhyrchu adroddiad blynyddol sy'n adrodd hanes iechyd

eu poblogaeth. Yn draddodiadol, mae'r adroddiadau hyn yn

ddogfennau eithaf ffurfiol. Eleni, yn dilyn y pedair blynedd

diwethaf, roeddwn i eisiau iddo fod yn wahanol. Iddo gael ei

ysgrifennu gan blant Gwent am blant Gwent. Dyma gyfle arall

i glywed am effeithiau'r pandemig a deall beth mae iechyd yn

ei olygu i'n pobl ifanc.

 

Mae hyn yn cyfrannu ymhellach at y gwaith rydym yn ei wneud

er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac anelu at

greu Gwent decach, mwy diogel, cryfach ac iachach fel rhan

o'n gwaith Rhanbarth Marmot parhaus. Gyda'r adroddiad

hwn, rydym yn rhoi llais cryfach i fabanod, plant a phobl

ifanc. Roeddwn i eisiau deall yr etifeddiaeth y mae'r

pandemig wedi'i gadael a'r effaith ar ein plant.

Bydd ein hadroddiad yn rhannu profiadau personol

gan blant ac yn ysbrydoli pobl i feddwl am yr hyn y

gallwn ei wneud er mwyn gwneud Gwent yn fan lle

gall ein babanod, ein plant a'n pobl ifanc ffynnu. Mae'r

adroddiad yn gorffen gyda llythyr agored, wedi'i gasglu

o'r hyn sydd wedi'i rannu. Bydd hyn yn llywio'r Strategaeth

Babanod, Plant a Phobl Ifanc y byddwn yn ei datblygu

dros y misoedd nesaf.”


Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Gwent