Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wrthi’n ystyried y ffyrdd y gall drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Blant Serennu ar Ddydd Sul 31 Gorffennaf ar gyfer Diwrnod Hwyl Carnifal Haf Sparkle , rhwng 11:30yp a 4:00yp.
Mae mynediad am ddim ac mae croeso cynnes i bawb - mwy o fanylion yn y poster isod!
Mae Carol Walton, Ymgynghorydd Bwydo ar y Fron sy'n rhan annatod o'r Bwrdd Iechyd, wedi derbyn gwobr am 60 mlynedd o wasanaeth i'r GIG.
Yn gynharach heddiw, bu Carol yn bresennol mewn Cyfarfod Bwrdd cyhoeddus lle cyflwynodd y Cadeirydd, Ann Lloyd, wobr gwydr unigryw a thusw o flodau iddi i gydnabod ei chyflawniad. Daeth Carol ag ambell beth bach i gofio gyda hi i ddangos i aelodau'r Bwrdd.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) ar gyfer y tair blynedd nesaf wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun hwn yn amlinellu nodau ac uchelgeisiau allweddol ein sefydliad ar gyfer y tair blynedd nesaf, a fydd yn llywio sut rydym yn darparu ein gwasanaethau.
Fe'ch gwahoddir i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar Ddydd Mercher 27 Gorffennaf 2022 am 2pm, lle byddwn yn cyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2021/22. Mae copi o'n Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021/22 ar gael yma.
Mae'r mis hwn yn Fis Gofal Da, sy'n cydnabod ein cydweithwyr gofal cymdeithasol gwych a'r gofal anhygoel y maent yn ei cynnig. Rydym yn ffodus i weithio'n agos gyda gweithwyr gofal ffantastig, sy'n ein helpu trwy gefnogi cleifion yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartrefi gofal ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'n hysbytai.
Yn sefyll ar dir heulog Ysbyty Maindiff Court, cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau lleol a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog
Mae Clinig Cymunedol Brynbuga a Rhaglan yn fenter newydd a arweinir gan Nyrsys Ardal. Mae'r Clinig yn darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y clinig yn cyflawni Agenda Llywodraeth Cymru i gyflawni gwasanaeth gofal sylfaenol rhagweithiol, hyblyg a chynaliadwy.
Oherwydd materion amgylcheddol, bydd llinellau ffôn Brysbennu Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol ar gau am 4:00pm heddiw
Hysbysir drwy hyn fod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf Cyfeillion Gardd Furiog Llanfrechfa Grange
O Ddydd Llun 18 Gorffennaf, Oriau Agor y Ganolfan Archebu Brechiadau Torfol fydd 8:00yb i 6:00yp o Ddydd Llun i Ddydd Gwener a rhwng 8:00yb a 12:00yp ar Ddydd Sadwrn.
Mae'r Ganolfan Atgyfeirio ac Archebu Cleifion Allanol wedi newid eu horiau agor dros dro. Ar unwaith, byddwn ar gau ar Ddydd Sadwrn, ond byddwn yn parhau i fod ar gael o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 8:00yb a 6:00yp.
Ymunodd ein Hymgynghorydd Gofal Dwys, Ami Jones , â Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget , i gasglu Croes Siôr oddi wrth y Frenhines mewn seremoni yng Nghastell Windsor ddoe (12 Gorffennaf).
Ydych chi'n byw â dementia? Neu a ydych chi'n gofalu am rywun sy'n byw â dementia?
Yn y tywydd poeth hwn, gofalwch amdanoch chi eich hun ac eraill. Gall y rhan fwyaf ohonom fwynhau'r tywydd poeth yn ddiogel, ond cadwch lygad am y rhai sy'n fwy agored i niwed yn ystod y tywydd poeth.
Rydym eisoes yn gweld pobl yn mynychu Ysbyty Athrofaol Y Faenor sy'n wael iawn oherwydd effeithiau'r tywydd poeth.
Mae ein llinellau ffôn yn hynod o brysur ar hyn o bryd ac mae amseroedd aros galwadau yn hirach nag arfer. Gallwn eich sicrhau bod ein timau'n gweithio'n galed i ateb eich galwad cyn gynted â phosibl.
Ddydd Llun 18 Gorffennaf, bydd y ffordd y mae gwasanaethau fasgwlaidd yn cael eu darparu yn Ne-ddwyrain Cymru yn newid i sicrhau bod darpariaeth gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel yn cael ei chynnal ar gyfer y dyfodol.
Gyda disgwyl i'r tymheredd gyrraedd y 30au cynnar dros yr wythnos nesaf dyma rai awgrymiadau ar gyfer cadw'n ddiogel yn yr haul.