Neidio i'r prif gynnwy

Lansiad Clinig Cymunedol Tîm Nyrsio Ardal Integredig Brynbuga a Rhaglan

Dydd Llun 18 Gorffennaf 2022

Mae Clinig Cymunedol Brynbuga a Rhaglan yn fenter newydd a arweinir gan Nyrsys Ardal. Mae'r Clinig yn darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y clinig yn cyflawni Agenda Llywodraeth Cymru i gynnig gwasanaeth gofal sylfaenol rhagweithiol, hyblyg a chynaliadwy.

Dywedodd Renee Dotson, Rheolwr Tîm Nyrsys Ardal Brynbuga a Rhaglan, “Mae gan y Tîm Nyrsio Ardal Integredig angerdd eithriadol dros y Clinig Cymunedol- maent yn falch iawn ac yn edrych ymlaen at ddatblygu mentrau pellach yn y dyfodol.”

Mae Nyrsys Ardal yn darparu ystod eang o arbenigedd nyrsio y gellir ei ddarparu yn y cartref neu leoliad clinig cymunedol. Mae’r gofal a ddarperir yn canolbwyntio ar yr unigolyn gyda’r nod o hybu annibyniaeth ac ansawdd bywyd. Bydd y Tîm Nyrsio Ardal bob amser yn ceisio ymweld gartref neu gynnal apwyntiadau clinig fel y trefnwyd. Fodd bynnag, oherwydd natur amrywiol ac anrhagweladwy eu gwaith, rhaid iddynt flaenoriaethu galwadau brys a dderbynnir trwy gydol y dydd. Felly, efallai y bydd angen aildrefnu galwadau arferol o bryd i'w gilydd.

Mae llawer o fanteision i gyflwyno’r Clinig Cymunedol megis ei leoliad yn Adeilad Ymddiriedolaeth Roger Edwards, sy’n ganolog ym Mrynbuga a Sir Fynwy. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd ac ansawdd gofal oherwydd rhwyddineb mynediad at driniaeth ac adnoddau. Bydd hefyd yn rhoi dewis i gleifion o ran ble yr hoffent dderbyn gofal a thriniaeth.

Dywedodd Renee,“Ni fyddem wedi gallu ei gyflawni heb gefnogaeth Leanne Watkins, [Cyfarwyddwr Gweithrediadau], ac Ymddiriedolwyr yr adeilad. Maen nhw wedi bod mor gefnogol ac wedi credu yn ein prosiect.”