Ddoe, Dydd Llun 28ain o Fawrth 2022, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd y Gwobrau Cydnabod Staff cyntaf ers cyn i'r pandemig Covid-19 ddechrau.
Ar ôl ei ohirio o fis Rhagfyr 2021, cynhaliwyd y digwyddiad- lle mae cydweithwyr o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd fel arfer yn ymgynnull i ddathlu cyflawniadau ei gilydd yng Nghanolfan Christchurch yng Nghasnewydd- yn rhithiol am y tro cyntaf erioed.
Yn dilyn ein cyhoeddiad ar nos Fawrth, yr ydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach wedi isgyfeirio o statws 'parhad busnes'.
Diolch i holl drigolion Gwent am eich amynedd, cefnogaeth a chwestiynau. Mae ein hysbytai a’n gwasanaethau yn parhau i fod yn brysur ofnadwy heddiw a hoffem ofyn i bobl leol ein helpu drwy ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd gennym neithiwr.
Mae’r Bwrdd Iechyd dan bwysau parhaus a ddigynsail. Er gwaethaf camau gweithredu i geisio sefydlogi ein gwasanaethau, heddiw rydym wedi gorfod datgan cyflwr o 'barhad busnes'.
Mae ein Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn hynod o brysur, ac rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o ymweliadau. Felly, mae amseroedd aros i weld Meddyg, mewn rhai achosion, yn fwy na 14 awr pan nad yw cyflwr y claf yn bygwth bywyd. Ychydig iawn o welyau sydd gennym ar draws ein hysbytai i'w ddarparu ar gyfer cleifion sydd angen eu derbyni mewn i'r ysbyty.
O Dydd Llun 28 Mawrth, bydd ein tîm Brechu Torfol yn symud o Stadiwm Cwmbrân i’w lleoliad newydd ar Gampws Pont-y-pŵl Coleg Gwent.
Ddydd Mercher 23 Mawrth 2022, mae 'Diwrnod Cenedlaethol Myfyrio' a drefnwyd gan Marie Curie, yn nodi ail ben-blwydd y cloi Covid-19 cyntaf.
Dydd Iau 17eg Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a'r DHSC ymgynghoriad ar y rheoliadau a'r cod ymarfer ar gyfer gweithredu Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) .
Rydym yn cysylltu â grwpiau penodol o gleifion ar ein rhestrau aros trwy neges destun ar hyn o bryd.
Sylwch, o’r wythnos yn dechrau Dydd Llun 21 Mawrth 2022, mae’n debygol y bydd oedi cyn ymateb i unrhyw negeseuon ar beiriant ateb Dermatoleg Cyffredinol, oherwydd salwch a hunan ynysu staff yn yr adran Ddermatoleg Gyffredinol.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Bydd canllaw newydd i helpu trigolion Gwent i ddewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir yn cael ei ddarparu i gartrefi ar draws yr ardal o heddiw ymlaen.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi lansio’r llyfryn newydd o’r enw Gwasanaethau GIG i chi a’ch Teulu – i gynnig cyngor i drigolion yr ardal pan fo angen cymorth meddygol arnynt ond maent yn ansicr ble i fynd.
Rydym wedi dechrau gwneud gwelliannau i ehangu Adran Achosion Brys ac Uned Asesu Argyfwng Plant (CEAU) Ysbyty Athrofaol Y Faenor.
Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd (7–12 Mawrth), cyfarfuom ag Arian, sydd â radd Rheolaeth ac hyn o bryd yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd ac yn cwblhau gradd Meistr drwy gynllun Graddedigion Rheolaeth GIG Cymru.
Bu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar 8 Mawrth, yn dathlu llwyddiannau menywod ar draws y byd.
Heddiw, rydym yn dathlu llwyddiannau ein staff, sy'n cyflawni gwaith anhygoel bob dydd yn eu rolau.
Wrth gynrychioli 81% o weithlu ein Bwrdd Iechyd, ni allwn gwneud yr hyn a wnawn hebddynt!